Tîm Pêl-Rwyd Iau Maes Glas yn mynd i’r Pencampwriaethau Cenedlaethol
Yn dilyn agoriad dôm pêl-rwyd Prifysgol Bangor ym Medi 2013, bu Swyddog Datblygu Pêl-Rwyd Gogledd Orllewin Cymru, Lucy Murray-Williams, yn gweithio’n galed i sefydlu clwb pêl-rwyd iau ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7/8 a 9.
Gan gychwyn â 3 chwaraewr yn unig ym mis Hydref, mae Clwb Pêl-Rwyd Bangor eisoes wedi tyfu’n grŵp o 20 o chwaraewyr, sy’n dod o Ysgol Friars, Ysgol Tryfan, Ysgol St Gerard ac Ysgol Hillgrove.
Lucy sy’n arwain sesiynau hyfforddi’r clwb, gyda chymorth myfyrwyr a chwaraewyr pêl-rwyd o Brifysgol Bangor, yn cynnwys Bethan Eades ac Anna Orlean-Buchanan sydd ill dwy’n fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Ar ôl dod yn drydydd yng Nghynghrair Iau Arfon yn eu tymor cyntaf, cymerodd chwaraewyr blynyddoedd 7 ac 8 ran yng nghystadleuaeth Gogledd Cymru i Glybiau Dan 13 a gynhaliwyd ym Maes Glas ddydd Sul 16 Mawrth.
Dod yn bedwerydd wnaeth y tîm, sy’n golygu eu bod wedi ennill eu lle yn rowndiau terfynol Clybiau Pêl-Rwyd Cenedlaethol Cymru Dan 13, sydd i’w cynnal ym Merthyr Tudful ddydd Sul 11 Mai.
Meddai Lucy Murray-Williams, “Mae hwn yn llwyddiant mawr ym mlwyddyn gyntaf y tîm, ac mae cael defnydd rheolaidd ar gyfleuster pwrpasol ar gyfer pêl-rwyd wedi gwneud anferth o wahaniaeth i allu’r aelodau i chwarae a hyfforddi’n gyson. Mae’r clwb eisoes wedi tyfu i’r graddau fel y byddwn yn gallu cofrestru dau dîm yng nghynghrair Gogledd Cymru y tymor nesaf, ar lefel Dan 13 a Than 15.”
Meddai Bethan Eades o Glwb Pêl-Rwyd Prifysgol Bangor, “Rydym ni i gyd wedi chwarae mewn clybiau o gwmpas y wlad, ac mae ymwneud â’r chwaraewyr iau yma wedi’n helpu ni i roi rhywbeth yn ôl i’r gêm. Mae cryn nifer o blith ein tîm yn gobeithio bod yn athrawon, felly mae hyn wedi bod yn brofiad gwirioneddol dda.”
Adeiladwyd y Dôm Pêl-rwyd ym Mhrifysgol Bangor yn haf 2013 i ddarparu cyrtiau pêl-rwyd a thennis dan do ar gyfer y Brifysgol a’r Gymuned fel ei gilydd. Cyllidwyd y project yn rhannol trwy grant “Call4Action” gan Chwaraeon Cymru, sy’n anelu at gynyddu cyfranogiad merched mewn chwaraeon a sicrhau y caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r Ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014