Tîm Ysgol y Gyfraith yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ryngwladol
Mae Tîm o fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol Bangor wedi curo cyn-bencampwyr wrth gyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth ‘ffug lys barn’ ryngwladol ar gyfer myfyrwyr y gyfraith.
Dyma oedd ymgais gyntaf y Brifysgol yng nghystadleuaeth ‘Moot’ rhyngwladol y Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC). Y ‘Moot’, sydd yn cael ei gynnal yn Yr Hâg a’i threfnu gan Ganolfan Astudiaethau Troseddol Rhyngwladol Grotius Prifysgol Leiden, gyda chefnogaeth y Llys Troseddol Rhyngwladol, yr ICC, yw un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol o’i bath, lle mae myfyrwyr y gyfraith yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn achos cyfreithiol ffug.
Dros dridiau bu’r tîm o Fangor, sef myfyrwyr LLM Silvina Sanchez Mera a Fay Short a myfyrwraig blwyddyn olaf LLB, Laura Jager, yn cymryd rhan yn y rowndiau gogynderfynol, gan guro tîm Prifysgol Bond, Awstralia, sydd wedi ennill ddwywaith yn y chwe blynedd diwethaf, ynghyd â thimau o’r Wcráin, Twrci, Bosnia, Yr Almaen, Ghana, UDA, Kenya, Afghanistan, Y Swistir, a Malaysia. Cyhoeddwyd enw Prifysgol Bangor ymysg y timau a osodwyd ar y brig ac a aeth ymlaen i’r rownd gynderfynol.
Meddai Yvonne Mc Dermott-Rees, darlithydd y Gyfraith a fu’n cefnogi’r tîm:
“Roeddem wrth ein boddau gyda’n perfformiad! Roeddem yn wynebu cystadleuaeth gre o ran Prifysgol New South Wales, Awstralia ac Ysgol y Gyfraith Osgoode Hall yng Nghanada yn y rownd gogynderfynol, â hwythau wedi ennill y gystadleuaeth yn 2010 ac wedi bod yn y tri uchaf bedair gwaith yn y chwe blynedd diwethaf. Yn y rownd yma, dim ond un Tîm o bob tri sydd yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol o blith y naw uchaf yn y gystadleuaeth - felly roeddem yn falch o fod wedi llwyddo i gyrraedd y fan honno. Fodd bynnag, yn dilyn perfformiad ardderchog Laura, enillon ni'r rownd. Yn y rownd gynderfynol apherfformiad neilltuol gan Fay, cawsom ein curo o ychydig bwyntiau gan dîm Prifysgol Rheolaeth Singapore, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.”
Ychwanegodd Yvonne: “Heb os, ni allaf fod yn fwy balch o berfformiad y tîm, a oedd hefyd yn cynnwys myfyrwyr LLM, Tahsin Khan ac Andra Filimon, fel ymchwilwyr. Mae Silvina yn haeddu clod arbennig. Derbyniodd gymeradwyaeth uchel gan y beirniaid am ystod ei gwybodaeth. A hithau erioed wedi astudio deddfwriaeth droseddol ryngwladol, ac ond wedi bod yn aelod o’r tîm ers mis Mawrth, mae Laura bellach yn arbenigwr yn y maes! Ymunodd Fay â’r tîm chwe wythnos yn ôl, ac er bod ganddi sawl ymrwymiad arall, bu’n hollol ymrwymedig i’r gystadleuaeth gan roi cyflwyniadau hyderus ac angerddol, gan roi’r argraff ei bod wedi bod yn ymwneud â’r gystadleuaeth ers amser maith!”
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2016