Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso
Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd.
Er mwyn derbyn preswylwyr newydd i safle Pentref Myfyrwyr y Santes Fair, gweithredir ar y cyd â’r cyngor lleol a’r heddlu system unffordd dros dro ar gyfer traffig sy’n cyrraedd Pentref Myfyrwyr y Santes Fair o gyfeiriad Lôn Bobty.
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n cyrraedd mewn ceir, bydd arwyddion Route Planner ar yr A55 yn eu cyfeirio i’r neuaddau preswyl, gan ddefnyddio tri llwybr gwahanol.
Rhybuddir preswylwyr lleol y gall y traffig fod yn drymach na’r arfer wrth i tua 2,000 o fyfyrwyr gyrraedd neuaddau preswyl y brifysgol dros benwythnos 15-16 Medi.
Mae’r llwybrau coch a gwyrdd yn cyrraedd y ddinas o gyfeiriad Llandygai / Llys y Gwynt gyda’r llwybr gwyrdd yn troi i lawr Ffordd Sackville i fynd i’r Stryd Fawr a Lôn Bobty a’r llwybr coch yn parhau tuag at Safle Ffriddoedd ar Ffordd Ffriddoedd. Bydd y llwybr glas yn arwain y traffig oddi ar yr A55 cyn Pont Britannia ac yna ar hyd Ffordd Caergybi i Fangor Uchaf. Efallai yr hoffai pobol leol gadw hyn mewn cof wrth gynllunio’u teithiau o amgylch y ddinas, gan y disgwylir tipyn mwy o draffig na’r arfer ar hyd y llwybrau hyn.
"Bydd myfyrwyr newydd yn cyrraedd llety’r brifysgol dros y penwythnos, gyda’r mwyafrif i gyrraedd ar y Sul, pan fydd y ffyrdd yn dawelach," eglura Deirdre McIntyre, Bywyd Preswyl Prifysgol Bangor.
Wrth i'r myfyrwyr newydd gyrraedd eu neuaddau, byddant yn cael eu croesawu gan eu Wardeniaid Neuadd, a fydd yn gyfrifol am eu gofal bugeiliol yn ystod y flwyddyn. Byddant hefyd yn cael eu croesawu gan Griw Campws Byw, grŵp o fyfyrwyr preswyl sy’n gyfrifol am gyflwyno calendr o weithgareddau cymdeithasol i fyfyrwyr newydd. Bydd ‘Arweinwyr Cyfoed’ wrth law i roi cymorth i’r myfyrwyr newydd, wrth iddynt setlo i fywyd prifysgol ym Mangor. Myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yw'r rhain, sydd wedi’u hyfforddi ar gyfer y gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018