Trafod Cerddoriaeth mewn Gemau
Mae myfyriwr Prifysgol Bangor wedi troi ei ddiddordeb mewn gemau cyfrifiadurol i mewn i radd ôl-raddedig mewn naratif rhyngweithiol.
Daeth Eoin Murray, sy’n lleol o Fangor i astudio gradd israddedig mewn Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol yn y Brifysgol. Yn ystod yr astudiaethau hynny sylweddolodd y gallai gyfuno ei gariad at gemau â’i waith academaidd. Mae Eoin nawr yn astudio PhD mewn ‘Bydoedd Storïol Iwtopaidd mewn Naratif Rhyngweithiol” yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mangor. Dywedodd,
“Pan oeddwn yn chwarae’r gemau, sylweddolais fy mod yn sylwi ar bethau, elfennau penodol o’r naratif a oedd yn delio efo pethau fel y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, iselder neu fewnfudiad a statws ffoaduriaid ac mi oeddwn i’n gwneud y cysylltiad ac yn meddwl y byddai’n rhywbeth diddorol i’w drafod mewn amgylchedd mwy academaidd. Felly roedd cymryd y naratif gwreiddiol hwnnw, y darn creadigol o gelf, a’i symud i leoliad mwy academaidd yn ffordd hynod o dda i archwilio yn y lle cyntaf sut y mae’r cyfryngau newydd yma yn gwneud sylw ar gymdeithas yn gyffredinol ac yna i greu astudiaethau academaidd ar sut y mae cyfryngau rhyngweithiol yn rhyngweithio efo ni.”
Un o ddiddordebau mawr Eoin yw’r defnydd o gerddoriaeth mewn gemau cyfrifiadurol. Mae’n credu fod y defnydd o gerddoriaeth yn y gemau yn debyg iawn i gerddoriaeth glasurol gan ei fod yn ceisio ennyn emosiwn yn y gwrandäwr ac yn adrodd stori. Dywedodd Eoin fod y gerddoriaeth mewn gemau yn bwerus iawn. Ychwanegodd,
“Mae yna un gêm gan gwmni o’r enw Hello AB er enghraifft o’r enw “She Wants me Dead” lle mae’r gêm i gyd yn cylchdroi o amgylch un gân ac mae bob rhwystr yr ydych yn ei wynebu yn symud i rythm y gan honno felly mae’n rhaid i chi wrando yn astud ar y gerddoriaeth os ydych chi eisiau llwyddo yn y gêm.”
Gwyliwch y cyfweliad llawn efo Eoin yn y fideo Talking About Music in Gaming.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019