Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol
Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan.
Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.
Hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad fydd Guto Hari (BBC/News International/Liberty Global) a Chris Payne, o gwmni lleol, Quantum Soup, sydd yn datblygu gemau digidol, a Garffild Lloyd Lewis, Cadeirydd Gogledd Creadigol.
Fel yr esboniodd Steffan Thomas, Darlithydd Diwydiannau Creadigol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a threfnydd y digwyddiad ar ran yr Ysgol:
“Bydd y digwyddiad yn gyfle i ni gryfhau ein cysylltiadau ac ymgeisio am brojectau mwy uchelgeisiol drwy gydweithio efo’n gilydd yn hytrach na gweithredu o fewn unedau bychain.”
“Mae heriau yn ein hwynebu o ran daearyddiaeth a theithio – ond hefyd mae cyfleoedd newydd yn cynnig eu hunain yn y byd digidol. Byddwn yn ystyried cydweithio rhwng disgyblaethau creadigol, ac effaith technolegau newydd ar yr ystod o arferion o fewn y sector creadigol a’r cyfryngau. Mae’n debyg bod pob cwmni bach angen elfen o sgiliau digidol y dyddiau hyn, a dyma’r cryfderau sydd gan ein graddedigion i’w cynnig.”
Mae gan Steffan brofiad o gydweithio â’r diwydiannau creadigol, gan iddo weithio efo Cwmni Sain ar ddatblygiad ApTon, sef y gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth gan labeli Cymru, wrth gwblhau ei Ddoethuriaeth fel rhan o Ysgoloriaeth KESS.
O fewn yr Ysgol, mae arbenigaeth mewn sawl maes, gan gynnwys dyfodol cyhoeddi, arloesi mewn gemau, Deallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol, preifatrwydd a diogelu data, mynd i'r afael â newyddion ffug, ffurfiau newydd o wneud rhaglenni dogfen, a strategaethau busnes newydd yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Meddai Garffîld Lloyd Lewis, Cadeirydd Gogledd Creadigol: "Rydw'i ac aelodau Gogledd Creadigol yn croesawu'r digwyddiad hwn yn Pontio, a ryda ni'n falch iawn o'i gefnogi. Bydd yn gyfle gwych i unigolion a chwmnïau sy'n gweithio ym maes y diwydiannau creadigol yma yn y Gogledd i drafod meysydd twf a datblygu i'r dyfodol, yn ogystal ag adnabod cyfleoedd a photensial i gydweithio rhwng y sector creadigol a'r Brifysgol"
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018