Trafod Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd
“Pa bryd defnyddiwyd y gair ‘adferteisio’ yn y Gymraeg am y tro cyntaf: (a) 1974, (b) 1880 ynteu (c) 1763?”
Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwn a nifer o ffeithiau ieithyddol eraill am yr iaith Gymraeg a’i pherthynas â’r iaith fain yn cael eu datgelu mewn sesiwn drafod ar y pwnc ”Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd” ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 2 Awst, o 4:00y.h. tan tua 4:30y.h. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb alw draw i’r babell.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am hanes y cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â chael cipolwg ar sgwrsio dwyieithog yng Nghymru a chymunedau dwyieithog eraill yn y byd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwis geiriau, cyflwyniad gan y Dr Peredur Davies a’r Athro Margaret Deuchar, arddangosfa gydag enghreifftiau o gymunedau dwyieithog eraill, sesiwn holi a thrafod a chyfle i gael paned a sgwrs anffurfiol.
Meddai’r Athro Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n trefnu’r digwyddiad:
“Bydd ein sesiwn yn gyfle unigryw i glywed am yr ymchwil ddiweddaraf rydym wedi’i gwneud ar sgwrsio dwyieithog. Pwrpas ein hymchwil yw gweld sut mae pobl ddwyieithog yn defnyddio eu dwy iaith wrth sgwrsio gyda’i gilydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011