Trafod dyfodol diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a mwynhau diwrnod o gerddoriaeth
Ai dyma yw diwedd y gân...? Cewch gyfle i drafod yr her fwyaf i wynebu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers degawdau, mewn fforwm trafod amserol am 2.00 brynhawn Iau ar stondin Prifysgol Bangor.
Mewn cyfarfod agored o’r enw Diwedd y Gân…?, cewch glywed canlyniadau ymchwil diweddar a thrafod datblygiadau posibl ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae Cwmni Sain yn darogan na fydd hi’n bosib cynhyrchu caneuon Cymraeg yn fasnachol ymhen pum mlynedd – heb newidiadau sylfaenol yn y modd mae'r byd cerddoriaeth yn cael ei ariannu.
"Dwi’n wir bryderu na fydd hi’n bosibl cynhyrchu a gwerthu cerddoriaeth Cymraeg yn fasnachol ymhen pum mlynedd os nad oes rhywbeth yn newid yn sylfaenol," meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Cwmni Sain.
Mae’r incwm o bob ffynhonnell fasnachol ynghylch creu, cynhyrchu, gwerthu a defnyddio cerddoriaeth Gymraeg yn lleihau’n gyson. Mewn ymateb i hyn, mae Sain a Phrifysgol Bangor yn cydweithio ar gynllun KESS, sef ymchwil doethuriaeth am dair blynedd, fydd yn edrych ar fodelau’r dyfodol ar gyfer cynyddu’r incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth.
Yn dilyn y cyflwyniad rhagarweiniol gan Dafydd Iwan a Dafydd Roberts, bydd fforwm trafod agored yng nghwmni nifer o gerddorion blaenllaw cyfoes.
Mae croeso i bawb gyfrannu’u barn mewn trafodaeth amserol sy’n argoeli bod yn un ddifyr a chyffrous.
Mae’r Fforwm yn rhan o ddiwrnod digwyddiadau CERDD IAU, sef gweithgareddau a drefnir gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Yn ogystal â’r drafodaeth ddeallus mae 'na ddigon o hwyl i’w gael - a rhywbeth at ddant pob oedran.
Tydi hi byth yn rhy fuan i fod yn gerddor! Mae’r diwrnod yn dechrau efo gweithdy Camau Cyntaf Cerdd i’r plant ieuengaf am 11.00 ac eto am 12.30 (gyda rhieni’n cael aros i’w goruchwylio). Mae’r gweithdy’n cael ei gynnal gan Marie-Claire Howorth ac Elise Gwilym ar gyfer plant rhwng 18 mis a 4 oed.
Am 12.00 fe lansir project newydd ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y Gymraeg, sef Termau Technoleg Cerddoriaeth, y diweddaraf mewn cyfres o eiriaduron termau arbenigol sy’n cael eu paratoi gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr yn y Brifysgol. Gruffydd Prys fydd yn esbonio’r gwaith sydd wrth wraidd safoni termau yn y maes.
Yna am 1.00 bydd perfformiad gwerinol ei naws ar gyfer pobl ifanc (o bob oed!), efo caneuon ac alawon gan y cerddorion Cass Meurig a Nial Cain.
Ar ôl trafodaeth Diwedd y Gân…?, bydd cyfle i ymlacio wrth fwynhau Cwis Cerdd hwyliog, fydd yn dechrau am 3.00 - dewch i weld pwy yw’r gwir wybodusion cerddorol: Tîm Cwmni Sain ynteu Tîm Cyn-fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Bangor?
I gloi’r diwrnod, dewch draw i babell Prifysgol Bangor i fwynhau cerddoriaeth gyfoes Daniel Lloyd am 4.00.
Mae’r Ysgol hefyd wedi trefnu Dosbarth Meistr Llais ddydd Gwener yn y Stiwdio rhwng 12.30-2.00. Bydd yn cael ei arwain gan Marian Bryfdir a Branwen Gwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011