Trafod nofelau'r Aifft yn Ysgol y Gymraeg
Gyda’r Aifft a nifer o wledydd Arabaidd eraill yn y newyddion ar y funud, mae’n amserol iawn bod Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith sydd yn awgrymu bod llwybr yr Aifft tuag at chwyldro i’w weld yn glir yn nofelau Eifftaidd y degawdau diweddar. Bydd yr Athro Sabry Hafez, Athro er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Qatar, yn rhoi darlith ar ‘Gairo a’r Nofel Eifftaidd’ ym Mangor ar Ebrill 1.
Meddai Dr Angharad Price: ‘Yn Ysgol y Gymraeg rydym yn gwneud ymdrech i osod y Gymraeg a’i llenyddiaeth mewn cyswllt rhyngwladol ehangach. Dair blynedd yn ôl daeth yr awdur a’r beirniad nodedig o Kenya, Ngugi wa Thiong’o, atom i drafod ei waith yn yr iaith Gikuyu. Y llynedd rhoddodd yr Athro Jeff Opland o SOAS ddarlith ar ganu mawl llwyth y Xhosa yn Affrica, ac eleni mae’n bleser mawr gennym groesawu un o arbenigwyr pennaf y byd ar lenyddiaeth Arabeg fodern atom, sef yr Athro Sabry Hafez, ac yntau’n traddodi darlith ar bwnc amserol iawn, sef llenyddiaeth gyfoes yr Aifft.’
Yn frodor o’r Aifft, bu’r Athro Sabry Hafez yn ddarlithydd ym mhrifysgolion Cairo, Rhydychen, Stockholm, Los Angeles a SOAS, Llundain. Ef yw golygydd y cylchgrawn Al-Kalimah (alkalimah.net)
Wrth gyflwyno’i ddarlith, dywedodd yr Athro Hafez: ‘Wrth astudio nofelau’r Aifft yn y ddau ddegawd diwethaf, gwelir yn eglur bod gwrthryfel yn anochel. A hynny yn union a gafwyd yn yr Aifft yn ystod yr wythnosau diwethaf: chwyldro anochel sydd yn dal i fynd yn ei flaen.’
Mae poblogaeth Cairo bellach tua 17 miliwn, a mwy na hanner y bobl yn byw mewn tai dros-dro yn yr ardaloedd sianti o gwmpas canolbwynt hanesyddol y ddinas. Yr enw Arabaidd am ardaloedd o’r fath yw al-madun al-‘ashwa’iyyah: o’i gyfieithu’n fras ‘dinas fympwy’ neu ‘ddinas siawns’. Nid oes ynddynt na systemau carthffosiaeth na dwr glân, ac mae’r strydoedd yn rhy gul i ganiatáu mynediad i’r gwasanaethau brys. Mae gorboblogi dwys yma: mae teuluoedd cyfain yn rhannu un ystafell mewn rhai ardaloedd, ac mae llosgach yn gyffredin. Mae’r diciâu a hen glefydau tebyg bellach yn rhemp.
Er bod poblogaeth yr Aifft wedi dyblu er 1980, nid chynyddodd y llywodraeth ei gwariant ar iechyd, addysg, tai ac yn y blaen. O ganlyniad, mae strwythur cymdeithasol bellach ar ffurf deinosor: pen bychan o gyfoethogion pwerus yn rheoli corff anferth o dlodion.
Yn ei ddarlith, bydd yr Athro Sabry Hafez yn trafod sut y mae’r amgylchiadau hyn i’w gweld yn eglur yn y nofelau a ysgrifennwyd yn yr Aifft dros y ddau ddegawd diwethaf, nid yn unig o ran cynnwys, ond hefyd yn eu ‘diffyg’ ffurf. Mae ‘blerwch’ di-draddodiad y nofelau hyn yn adlewyrchiad o dwf y slyms yng Nghairo ei hun, a’r rhwyg â thraddodiad yn adlewyrchiad o ddieithrwch ehangach.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011