Tri arall yn dilyn gradd doethur ym Mangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg
Mae tri myfyriwr newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn cyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn eu galluogi i ddilyn gradd doethur trwy gyfrwng y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r tri o blith naw sydd yn derbyn ysgoloriaethau gan y coleg Cymraeg eleni ac yn ymuno â 9 sydd eisoes yn astudio yn y Brifysgol o dan yr un cynllun.
Mae Sioned Williams o Bwllheli wedi ennill ysgoloriaeth i ddilyn gradd doethur yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol. Defnydd cymdeithasol yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd a Môn fydd canolbwynt ei hastudiaeth gyda golwg ar y ffactorau sy’n effeithio ar gymhelliannau disgyblion ysgol dros ddewis addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Claire Griffith-Mcgeever o Gaernarfon hefyd wedi derbyn nawdd i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Ffisioleg ymarfer clinigol yw arbenigedd Claire a’i dymuniad yw cyfrannu at y cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol.
Un arall o Gaernarfon fydd yn dilyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Arwel Tomos Williams, a hynny o fewn yr Ysgol Seicoleg. Mae eisoes wedi magu profiad ymchwil perthnasol ar ôl cwblhau gradd israddedig a meistr yn y maes o dan arweiniad darlithwyr cyfrwng Cymraeg yr ysgol.
Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘‘Roeddem yn falch o fedru dyfarnu’r ysgoloriaethau hyn eleni i unigolion fydd yn astudio trawsdoriad o ddisgyblaethau gwahanol. Hoffwn eu hannog i fanteisio ar yr hyfforddiant a gynigir gan y Coleg fel rhan o’u hysgoloriaeth ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu datblygiad dros y blynyddoedd nesaf.’’
Dywed Yr Athro Jerry Hunter, Dirpwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, “Mae’n wych gweld yr unigolion hyn yn dechrau ar eu hymchwil PhD yma ym Mhrifysgol Bangor. Yn ogystal â bod yn ddarparwr mwyaf addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn y wlad, mae gan Brifysgol Bangor ddiwylliant ymchwil Cymraeg hynod fywiog; gwn y bydd y tri myfyriwr ôl-radd yma yn cyfoethogi’r diwylliant ymchwil hwnnw. Rydym yn falch iawn bod ein partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ein galluogi i gefnogi gwaith yn y meysydd pwysig hyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015