Tri yn ennill ‘Cyfieithydd Gorau’ mewn cystadleuaeth Ewropeaidd
Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dod i’r brig mewn Cystadleuaeth ‘Her Prifysgolion’ a gynhelir gan Veritas Language Solutions, ac sydd wedi ennyn cystadlu brwd gan brifysgolion ar draws Ewrop. Mae’r tri, sydd yn astudio yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol i gyd wedi ennill ‘Cyfieithydd Gorau’ yn eu hadran berthnasol.
Yr enillwyr yw Christina Les, Liu Changjing a Matt Jellicoe. Er mwyn canfod yr ieithyddion ifanc mwyaf addawol eleni, gosodwyd darnau o lenyddiaeth i’w cyfieithu yn y gystadleuaeth, a fyddai’n cael eu cloriannu yn ôl cywirdeb y gramadeg a sillafu, tystiolaeth o wybodaeth ddiwylliannol, defnydd o ieithwedd addas, defnydd o gywair a thôn a dealltwriaeth glir o’r testun gwreiddiol.
Daeth Christina Les, myfyrwraig hŷn sy’n astudio MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn fuddugol yn yr adran cyfieithu o’r Almaeneg i Saesneg. Meddai Christina: “Mae’n wir gynhyrfus cael fy nghydnabod am fedr rwy’n gobeithio ei ddefnyddio’n broffesiynol. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth ein tiwtor cwrs, Dr Yan Ying, sydd yn gweithio’n ddiflino i hybu Astudiaethau Cyfieithu ym Mangor a bob amser yn ein hannog i gymryd rhan.”
Wedi iddi astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Nottingham a gweithio yn Ffrainc, yr Almaen, ac Awstria, symudodd Christina i ogledd Cymru i fod yn athrawes iaith. Mae hi bellach hanner ffordd drwy MA mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor. Ar yr un pryd mae hi’n dysgu Cymraeg ac yn mwynhau harddwch yr ardal. Cafodd Christina ei derbyn drwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr i astudio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Enillodd Liu Changjing y categori cyfieithu o’r Saesneg i’r Tsieinëeg. Daw yn wreiddiol o Zhejiang yn nwyrain Tsieina, ond cafodd ei denu i Brifysgol Bangor i ddilyn cwrs MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, gan wybod y byddai ganddi oruchwyliwr o Tsieina , a hefyd am ei bod yn ymwybodol o enw da'r DU am addysg. Enillodd hefyd Ysgoloriaeth Ryngwladol yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae Liu yn gobeithio parhau ei hastudiaethau ar lefel Doethuriaeth ac yn disgwyl cadarnhad am ysgoloriaeth bellach gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina. Mae’r Brifysgol hefyd yn bwriadu dyfarnu ysgoloriaeth arall iddi.
Mae’n amlwg bod gan Matt Jellicoe ddawn naturiol at ieithoedd. Dysgodd Tsieinëeg ar ei ben ei hun yn ystod y flwyddyn cyn dod i Brifysgol Bangor, ac mae wedi ennill yn y categori cyfieithu o’r Tsieinëeg i’r Saesneg. Mae yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Almaeneg ac Ieithyddiaeth. Dywedodd Matt sy’n dod o Solihull ger Birmingham ac sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Arden, yn Knowle: “ddylai pobol ddim ofni mynd ati i ddysgu Tsieinëeg.” Er ei fod yn astudio Almaeneg, perswadiodd Matt y brifysgol i adael iddo dreulio rhan o’i flwyddyn dramor yn astudio Almaeneg yn Tsieina lle lwyddodd i ymarfer ei Almaeneg a’i Tsieinëeg!
“Rwy’n gwerthfawrogi pa mor hyblyg mae fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor wedi bod. Hon oedd yr unig Brifysgol a oedd yn caniatáu i mi astudio Almaeneg o’r cychwyn fel rhan o fy ngradd,” meddai Matt.
Mae myfyrwyr llwyddiannus Bangor ymysg 13 sydd yn derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth mewn Cyfieithu. Bydd pob un hefyd yn derbyn sesiwn mentora gan Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Sharon Stephens, a fydd yn cynnig cyngor ar weithio fel cyfieithydd.
Meddai Dr Yan Ying, darlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu: “mae testunau gwreiddiol y gystadleuaeth yn rhai anodd. Mae rhagori mewn tri chyfuniad iaith yn y gystadleuaeth hon yn dyst i hyfedredd ieithyddol a sgiliau cyfieithu ein myfyrwyr.”
Meddai Dr Laura Rorato, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern, “Rydym wrth ei bodd yn gweld ein myfyrwyr yn llwyddo ac yn sefyll allan ymysg eu cyd-fyfyrwyr ar draws Prifysgolion Ewrop.”
Meddai Sharon Stephens: ‘Mae gwybodaeth ac ymdrech y cystadleuwyr wedi gwneud argraff fawr arnom.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013