Trigain mlynedd ers dringo Everest – Prifysgol Bangor yn dal i fod yn rhan o’r hanes
Gan ei bod mor agos at fynyddoedd Eryri, nid yw’n syndod bod Prifysgol Bangor wedi ei chysylltu’n annatod â hanes dringo Mynydd Everest. Byddai Mallory ac Irvine yn dringo mynyddoedd Eryri’n rheolaidd cyn eu hymgais aflwyddiannus i ddringo Everest ym 1924. Bu’r criw a lwyddodd i gyrraedd y copa ar Fai 29, 1953 hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd yn Eyri cyn iddynt gychwyn i Nepal, gan aros yng nghysgod yr Wyddfa ei hun.
Anghofir yn aml fod dirprwy bennaeth a dringwr arweiniol y criw, Syr Charles Evans, wedi dod o fewn 300 troedfedd i’r copa, dri diwrnod cyn i Hillary a Tenzing lwyddo i gyrraedd pen y mynydd. Dim ond problem â silindr ocsigen a rwystrodd Evans rhag cael ei anfarwoli fel y dyn cyntaf erioed i sefyll ar ben y mynydd. Yn ddiweddarach daeth Evans yn brifathro Prifysgol Bangor, hyn yn dechrau traddodiad hir o recriwtio a phenodi dringwyr yn fyfyrwyr ac yn staff.
Un o’r prif resymau dros lwyddiant taith 1953 lle’r roedd sawl ymgais flaenorol wedi methu oedd dealltwriaeth gwyddonydd y criw, Griff Pugh, o ffisioleg ymarfer corff. Gwyddai Pugh, a hanai yntau hefyd o deulu Cymreig, fod darparu digon o ocsigen, ynni a hylif i ddringwyr yn hanfodol bwysig os oeddent am lwyddo i gyrraedd copa Everest. Ar ôl dringo Everest, parhaodd Pugh i wneud ymchwil gyda chriwiau mynydda eraill, a gwnaeth waith pwysig hefyd ar oerfel a hypothermia. Hyd heddiw mae aelodau o’r Grŵp Ymchwil Eithafion yn parhau ei waith yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Bwriad y Grŵp Ymchwil Eithafion yw gwella iechyd a pherfformiad pobl mewn amgylcheddau eithafol fel Everest. Mae gan y grŵp ystafelloedd amgylcheddol sy’n gallu efelychu’r amodau tywydd a geir ar Everest, o wres a lleithder y bryniau bach y cerddir trwyddynt at y mynydd, i oerfel ac aer tenau’r copa ei hun. Mae’r grŵp yn defnyddio eu cyfleusterau unigryw i astudio pam mae pobl yn dioddef salwch cysylltiedig ag uchder, gwres ac oerfel, sy’n effeithio ar gynifer o ddringwyr ar Everest.
Gan ddilyn yn ôl troed Evans a Pugh, mae’r grŵp Ymchwil Eithafion hefyd yn trefnu'r gwaith ymchwil ar daith feddygol fodern i fynyddoedd yr Himalaya, fydd yn mynd yn 2015. Mae’r tîm wedi bod yn Everest unwaith yn barod, ac maen nhw'n gobeithio dringo copa 8000m arall, sef Manaslu. Mae’r paratoadau a’r gwaith trefnu yr un mor gymhleth ag yn y teithiau cynnar i Everest, gan fod angen i’r offer gwyddonol gael eu cludo i wersyll anghysbell gan griw mawr o borthorion. Bydd y Grŵp Ymchwil Eithafion yn hwyluso rhaglen ymchwil fydd nid yn unig yn astudio mynyddwyr profiadol ond hefyd grŵp llai profiadol ond brwdfrydig o gerddwyr bryniau wrth iddynt wneud y daith hir i wersyll cychwyn Manaslu.
Bydd yr ymchwil ffisiolegol heriol a chyffrous hon yn sicrhau bod Prifysgol Bangor yn parhau i ymwneud ag ymdrechion y ddynolryw o gopa Mynydd Everest i amgylcheddau eithafol y byd. Meddai Dr Jamie Macdonald, aelod o'r Grŵp Ymchwil Eithafion, ‘Mae hanes mynydd a ffisioleg uchder yn frith o gymeriadau difyr fel Pugh ac Evans. Roedd darllen hanes eu bywyd wedi fy ysbrydoli i gyfuno fy hobi, sef mynydda gyda fy ngwaith fel gwyddonydd chwaraeon. Mae’n anrhydedd cael parhau eu gwaith ac yn fraint bod yn rhan o faes ymchwil mor gyffrous.”
Ceir gwybodaeth bellach yma:
Cyswllt coll Bangor â choncro Everest
Extremes Research Group - Bangor University
Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Myfyrwyr Bangor ar ben y Byd!
Taith Ymchwil Feddygol Prifysgol Bangor i Fynyddoedd Himalaia.
Myfyrwyr a staff yn paratoi ar gyfertaith ymchwil i'r Himalaia.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013