Troseddau'n erbyn yr unigolyn - moderneiddio'r gyfraith sy'n ymwneud â thrais
Yn ôl Comisiwn y Gyfraith mae angen rheolau newydd i fynd i'r afael â throseddau treisgar a gwneud gwell defnydd o amser y llysoedd.
Ddydd Mawrth, 3 Tachwedd, cafodd adroddiad newydd gan Gomisiwn y Gyfraith ei lansio mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor, gyda'r Athro Ormerod, Comisiynydd y Gyfraith dros gyfraith droseddol, yn traddodi darlith ar 'Reforming Offences Against the Person', i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor a gwahoddedigion.
Meddai'r Athro David Ormerod QC wrth lansio'r adroddiad newydd:
"Mae ymddygiad treisgar yn arwain at hyd at 200,000 o erlyniadau bob blwyddyn ond mae'r gyfraith a ddefnyddir i erlyn pobl am droseddau treisgar yn hen ffasiwn ac yn ddryslyd i'r llysoedd, diffynyddion a rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i droseddau.
"Os cânt eu gweithredu, bydd y diwygiadau rydym yn eu hargymell yn rhoi cod statudol modern a chlir i ddelio â throseddau treisgar. Bydd hierarchaeth resymegol o droseddau wedi'u diffinio'n glir yn galluogi erlynyddion i ddefnyddio amser gwerthfawr llysoedd yn fwy priodol ac effeithlon. A bydd troseddau wedi eu labelu'n briodol yn sicrhau bod gwir natur ymddygiad treisgar yn cael ei gydnabod am yr hyn ydyw."
Meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor: "Mae ymweliad Yr Athro Ormerod i draddodi darlith bwysig fel rhan o'r cwrs Cyfraith Droseddol yma ym Mangor, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith, yn anrhydedd i'r Ysgol ac yn gyfle gwych i'n myfyrwyr. Anaml iawn mae myfyrwyr yn cael clywed un o Gomisiynwyr y Gyfraith yn trafod cynigion i ddiwygio'r gyfraith - yn yr achos hwn Deddf Troseddau Corfforol 1861 - a hynny ar union ddiwrnod eu cyhoeddi."
Yn yr adroddiad mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell diwygiadau a fydd yn:
- rhoi deddfwriaeth fodern, glir a rhesymegol yn lle Deddf Troseddau Corfforol 1861 sy'n hen ffasiwn erbyn hyn
- creu trosedd newydd, sef "ymosodiad dwys" i bontio'r bwlch rhwng ymosodiad cyffredin ac achosi gwir niwed corfforol (ABH), sy'n llawer mwy difrifol, ac
- ymestyn y drosedd o fygwth lladd i gynnwys bygythiadau i achosi niwed difrifol neu dreisio.
Ceir dros 26,000 o erlyniadau bob blwyddyn dan Ddeddf Troseddau Corfforol 1861 ac o leiaf 100,000 o rai eraill am ymosod, ond mae'r ddeddf yn hynod anodd ei deall a'i defnyddio. Mae'r iaith yn hynafol ac annelwig. Mae'n cyfeirio at gysyniadau nad ydynt yn cael eu cydnabod gan y gyfraith mwyach ac yn cynnwys troseddau sydd wedi hen ddarfod amdanynt, megis "rhwystro dianc o longddrylliad".
Mae'r Ddeddf yn cynnwys amrywiol droseddau, yn cynnwys rhai a adwaenir yn boblogaidd fel ABH a GBH, ond nid ydynt wedi eu dosbarthu'n drefnus o ran eu difrifoldeb neu eu diffinio'n glir.
Mae'r Comisiwn yn argymell y dylid disodli'r Ddeddf gan ddeddfwriaeth fodern wedi'i seilio ar Fesur a ddrafftiwyd yn ystod ymgais gynharach gan y Swyddfa Gartref i ddiwygio'r gyfraith. Mae'r Mesur newydd yn haws ei ddeall. Gwneir y troseddau'n gliriach a'u cyflwyno mewn hierarchaeth fwy rhesymegol. Yn achos rhai ohonynt, fe’i gwneir yn ofynnol bod y diffynnydd wedi rhagweld lefel y niwed a achoswyd.
Argymhellir i'r ddedfryd uchaf am y drosedd newydd o "ymosodiad dwys" fod yn 12 mis o garchar gydag achosion i'w cynnal yn unig mewn Llys Ynadon. Bydd hyn y galluogi erlynyddion i fynd ag achosion lle nad achoswyd anafiadau difrifol o Lys y Goron (lle mae cynnal achosion yn ddrutach) i Lys Ynadon, yn unol ag argymhellion Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i gynyddu'r dedfrydau y gall ynadon eu rhoi o chwe mis i 12 mis o garchar.
Yn ogystal â gostwng costau llysoedd yn sylweddol bydd y drosedd newydd yn galluogi i ymosodiadau treisgar gael eu hystyried ar lefel fwy priodol. Ar hyn o bryd mae dros 70% o rai a geir yn euog mewn achosion o ABH mewn Llys y Goron yn cael dedfrydau o 12 mis neu lai. Ond, gyda'r cyhuddiad newydd o ymosodiad dwys, gellid gwrando'r achosion hyn mewn Llys Ynadon. Er mwyn cadw achosion allan o Lys y Goron, mae llawer o droseddwyr sy'n ymosod ar bobl gan achosi anaf iddynt yn cael eu cyhuddo o ymosodiad cyffredin ar hyn o bryd, ac nid yw hynny mewn rhai achosion yn cydnabod natur dreisgar y drosedd.
Bydd argymhelliad y Comisiwn i ymestyn y drosedd o "fygwth" i gynnwys bygythiadau i dreisio a bygythiadau i achosi anaf difrifol yn caniatáu i'r ymddygiad troseddol gael ei brofi ar lefel briodol. Dan y ddeddf bresennol nid oes unrhyw droseddau rhwng bygythiad i ladd, sy'n cario dedfryd uchaf o 10 mlynedd o garchar, a bygythiad i ymosod, sydd â dedfryd uchaf o chwe mis.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015