Trwy ddulliau chwyldro…? Cynhadledd yn cloriannu pum degawd o ymgyrchu iaith.
Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon (16-17 Tachwedd) bydd cynhadledd academaidd bwysig yn cael ei chynnal ym Mangor. Bwriad y gynhadledd 'Trwy ddulliau chwyldro...?' fydd taro golwg feirniadol ar ddylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe'i trefnir ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac fe’i cefnogir yn ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ymysg uchafbwyntiau'r gynhadledd bydd dwy ddarlith allweddol, y naill yn cael ei thraddodi ar y dydd Gwener gan Yr Athro Jane Aaron, a'r llall yn cael ei thraddodi ar y dydd Sadwrn gan Ned Thomas.
Yn ogystal â'r ddwy ddarlith uchod, bydd y rhaglen y gynhadledd yn cynnwys ystod o sesiynau gwahanol lle trafodir pynciau megis y canlynol:
- Agweddau ar ymgyrch yr iaith
- Ymgyrch yr iaith mewn cyd-destun cymharol
- Dylanwad ymgyrch yr iaith ar weithgarwch diwylliannol neu greadigol
- Ymgyrch yr iaith a chwestiynau cyfoes
Yn ôl un o drefnwyr y gynhadledd, Yr Athro Peredur Lynch, pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor:
'A hithau bellach yn hanner can mlynedd ers traddodi darlith radio enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hefyd wrth i ni ddisgwyl cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011, does dim amheuaeth fod hon yn gynhadledd amserol'
Ychwanegodd un arall o'r trefnwyr, Dr Huw Lewis o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth:
'Mae’n bwysig iawn bod digwyddiad o’r math hwn yn cael ei gynnal. Wrth i ni gyrraedd carreg filltir hanesyddol mae galw dirfawr am gyfle i edrych yn ôl yn feirniadol ar ddigwyddiadau’r degawdau diwethaf, gan gloriannu eu dylanwad a’u harwyddocâd. Mae angen gwneud hynny, nid yn unig er mwyn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o’n gorffennol, ond hefyd er mwyn medru dod i gasgliadau cytbwys ynglyn â chyflwr presennol y mudiad iaith.'
Manylon pellach:
- Gwenan Creunant: 01970 622336
- Huw Lewis: 01970 628638
- Atodir copi o raglen y gynhadledd
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012