Trydar mewn Trawiadau
I gofnodi pen-blwydd Twitter yn bum mlwydd oed, bydd eitem ar y rhaglen Wedi 7 ar S4C heno yn rhoi sylw i’r defnydd creadigol y mae un o staff y Brifysgol yn ei wneud o’r cyfrwng poblogaidd.
Mae Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a phrifardd cadeiriol, yn defnyddio’r cyfrwng cyfoes ar gyfer ymarfer un o grefftau hynaf y Gymraeg, sef y gynghanedd. Ers dwy flynedd a mwy, mae Llion, a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000, yn trydar mewn cynghanedd yn unig, gan ddefnyddio’r 140 nod y mae Twitter yn eu caniatáu i roi cipolwg ar y byd a’i bethau trwy gyfrwng llinellau a chwpledi o gynghanedd, yn ogystal ag ambell englyn.
Meddai Llion, “Yn ymarferol, mae mabwysiadu Twitter fel cyfrwng i gynganeddu yn fodd o gadw’r arfau barddol yn lân. Fûm i erioed yn fardd cynhyrchiol iawn, a thros y blynyddoedd diwethaf, y mae hi wedi dod yn gynyddol anodd neilltuo amser ar gyfer ysgrifennu creadigol. Mae disgyblu fy hun felly i ysgrifennu pytiau bach yn weddol gyson trwy Twitter yn atal yr arfau rhag rhydu’n llwyr. Yn ehangach, ac yn fwy difrifol, mae gen i ddiddordeb academaidd yn y modd y mae’r Gymraeg yn mabwysiadu cyfryngau newydd, yn enwedig felly ym maes ysgrifennu creadigol. Ac wrth gwrs, mae datblygu technolegau iaith yn rhan bwysig o waith a chenhadaeth Canolfan Bedwyr.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Llion harneisio technoleg er budd y gynghanedd a barddoniaeth Gymraeg. Ers 1998, fe fu’n gyfrifol am gynnal gwefan Yr Annedd (www.cynghanedd.com) – un o’r gwefannau Cymraeg mwyaf hirhoedlog.
Dilynwch trydar Llion yma: http://twitter.com/#!/LlionJ
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2011