Trysorau Archif y Brifysgol i’w weld mewn Diwrnod Agored.
Bydd llofnod Elisabeth I, Florence Nightingale a Charles Darwin, copi o “Yr Arwr” gan Hedd Wyn yn ei law ei hun, a lluniau yn ymwneud â Phatagonia ymysg yr eitemau i’w gweld yn Archifdy Prifysgol Bangor ar Fawrth 25 rhwng 1.00-4.30 pm
Bydd croeso cynnes i bawb ddod i ddiwrnod agored yr Archifdy, sydd yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae’r Archif wrth ymyl Prif Lyfrgell y Celfyddydau’r Brifysgol ar y Prif safle.
Cewch weld rhai o drysorau’r casgliad megis Gramadeg Einion Offeiriad sy’n dyddio o ddechrau’r 15fed ganrif a 'Llyfr Esgobol Bangor'. Llawysgrif unigryw sy’n dyddio o’r 14eg ganrif ac yn cynnwys y geiriau a'r cyfarwyddiadau, ac yn benodol, y gerddoriaeth sydd ei hangen ar gyfer holl seremonïau'r eglwys sy'n gofyn am bresenoldeb esgob.
Bydd enghreifftiau o gasgliad llyfrau prin y Brifysgol hefyd i’w gweld.
“ Mae’r Diwrnod Agored yn rhoi’r cyfle i bobol gweld yr adnoddau hanesyddol sydd ar gael yn yr Archif . Mae hefyd yn gyfle i ni ddangos yr agwedd gadwraethol o’n gwaith,” meddai Einion Thomas, Archifydd y Brifysgol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Archif ar (01248) 382966.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2011