Twf yn nifer y dysgwyr yn y Gogledd-Orllewin
Mae nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn y gogledd-orllewin ar ei fyny gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn cofnodi eu niferoedd uchaf erioed yn 2015/16 – cyfanswm o 3043 o ddysgwyr, sy’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r llwyddiant hwn yn arbennig o arwyddocaol gan fod y ddau sefydliad wedi cael eu dewis gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sefydlu Consortiwm ar y cyd i fod yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion yn siroedd Conwy, Gwynedd a Môn.
Mae safon y ddarpariaeth, dan arweiniad Prifysgol Bangor, eisoes wedi cael ei ganmol gan y corff arolygu, Estyn ac wedi cael ei ddyfarnu’r Rhagorol ganddynt. Nod y Consortiwm yw adeiladu ar hyn a chynnig gwelliannau i’r cyrsiau yn gyson. Un o’r gwelliannau yma ydy defnydd technoleg wrth ddysgu, sy’n golygu y gall dysgwyr bellach wneud hanner eu dysgu ar-lein gydag adnoddau pwrpasol y Consortiwm. O fis Medi eleni, bydd modd i bob dysgwr newydd ddilyn cwrs yn y ffordd yma. Eglurodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Consortiwm:
“Mae’r cyrsiau yma wedi profi’n eithriadol o boblogaidd wrth i ni eu peilota nhw y llynedd a’r prif reswm ydy fod y cyrsiau’n galluogi dysgwyr i ddysgu ar adeg sy’n eu siwtio nhw. Mae hyn mor bwysig bellach pan fo amser sbâr pobl mor brin.”
Gan danlinellu ei ymrwymiad i e-Ddysgu, enillodd y Consortiwm wobr genedlaethol yn ddiweddar yng Ngwobrau Cyfryngau Addysgol ‘Cadarn’ gyda’u hadnodd, “Y Wers” - http://ywers.com/. Gwefan ydy hon ar gyfer staff dysgu sy’n cynnig cefnogaeth ac enghreifftiau o arferion da trwy gyfrwng fideo.
Gyda’r tymor newydd yn dechrau y mis hwn a chyrsiau ar gael ymhob rhan o’r tair sir, mae’r Consortiwm yn cymryd camau arloesol i sicrhau fod y cyrsiau yn fforddiadwy i bob dysgwr. Esboniodd Ifor Gruffydd:
“Er mwyn ceisio sicrhau fod pawb yn medru cael mynediad at ein cyrsiau ni, rydan ni’n codi un ffi ar gyfer pob cwrs fel bod dysgwyr yn medru dewis y cwrs sydd orau iddyn nhw heb boeni am y gost. Mae pob cwrs felly yn costio £70 (am flwyddyn), neu £35 i’r digyflog, sy’n cynnig gwerth am arian anhygoel ac yn cynnig cyfle i bawb ddysgu.”
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ewch i www.bangor.ac.uk/cio neu ffoniwch 01248 383928.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2016