Tŷ Gobaith yn derbyn rhodd elusennol
Yn ddiweddar cyflwynodd Prifysgol Bangor siec am dros £4,000 i elusen leol Tŷ Gobaith ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall o godi arian.
Hosbis Plant Tŷ Gobaith yw'r elusen a fabwysiadwyd gan Brifysgol Bangor. Bob blwyddyn cynhelir amrywiaeth o weithgareddau i godi arian at yr achos arbennig hwn ac eleni roedd yn bleser mawr gan y Brifysgol gyflwyno siec am £4000.27 i'r elusen.
Cyflwynwyd y siec gan Miss Diane Roberts, sy'n gweithio fel Rheolwr Cangen banc Santander yn y Brifysgol. Pan glywodd Diane bod her colli pwysau'n cael ei threfnu i godi arian at Dŷ Gobaith, ymunodd yn yr her gyda chydweithiwr iddi a chael cyllid cyfatebol gan Santander i'r hyn a gasglwyd ganddynt.
Gyda chefnogaeth o £700 gan Santander, casglwyd cyfanswm o £1,933 o ganlyniad i'r her colli pwysau. Casglwyd gweddill yr arian drwy werthu cylch allweddi Tŷ Gobaith, cynnal gwasanaeth carolau yn yr Ysgol Addysg a'r elw a gafwyd drwy loteri staff y Brifysgol.
Meddai Mrs Katrina Lawson, Cydlynydd Codi Arian i Dŷ Gobaith yn yr ardal: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn cael ein rhyfeddu gan y gefnogaeth y mae Prifysgol Bangor yn ei rhoi i Dŷ Gobaith. Rydym angen casglu dros £1 miliwn yn flynyddol i sicrhau y gallwn edrych ar ôl babanod, plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n ddifrifol wael, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i'w teuluoedd. Mae cael cefnogaeth gyson fel hyn gyda miloedd o bunnau'n cael eu casglu'n flynyddol yn hynod bwysig ac rydym yn dra diolchgar i bawb sydd naill ai'n chwarae'r loteri neu a noddodd yr her colli pwysau. Diolch yn fawr i bawb ohonoch."
Meddai Joe Patton, sy'n cydlynu digwyddiadau codi arian at Dŷ Gobaith yn y Brifysgol: "Mae ein staff wedi bod yn hynod barod bob amser i gefnogi'r gwaith hollbwysig y mae Tŷ Gobaith yn ei wneud."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014