Tyfu’r economi werdd
Bydd chwe busnes o Gymru’n teithio i Iwerddon yr wythnos hon (3 Hydref) i rannu’r neges ynghylch sut y mae eu naws a’u ffordd o weithredu gwyrdd wedi bod o fudd i’w busnesau.
Mae’r cwmnïau, i gyd o Wynedd, wedi bod yn cymryd rhan mewn project economi werdd efo Prifysgol Bangor.
Mae Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd (Green Innovation Future Technologies Project (GIFT)) yn gweithio i ddatblygu’r economi werdd o fewn rhanbarthau Interreg Gorllewin Cymru ac Iwerddon. Mae’r project yn elwa ar yr arbenigedd berthnasol sydd i’w chael yn Ysgolion Busnes ac Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor ynghyd ag Ysgol Busnes ac Ysgol Gwyddoniaeth y Waterford Institute of Technology ac Ysgol Bioleg a Gwyddor Amgylcheddol University College Dublin.
Y nod yw darparu cyfleoedd gwella sgiliau hwylus i fusnesau. Mae’r arlwy i fusnesau sy’n cymryd rhan yn cynnwys cael cyngor a chefnogaeth am ddim, cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio efo busnesau eraill, arbenigwyr diwydiant a mentrau cymdeithasol, a’r cyfle i rannu profiadau a chreu cyfleoedd o’r newydd.
Mae Rosie Kresman yn sefydlu Fresh Bocs, a fydd yn rhoi cyhoeddusrwydd ar y we i fusnesau cynnyrch ‘artisan’ lleol a bwyd sydd wedi ei dyfu’n lleol yn Llŷn. Bwriedir i’r fenter newydd ddechrau y flwyddyn nesaf. Dywedodd:
"Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad, sy’n ymdrechu i hybu a chefnogi cynaladwyedd amgylcheddol o fewn busnesau. Mae cydweithredu, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio ymysg busnesau, a sefydliadau fel y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, yn allweddol i hyrwyddo gweithredu a thechnoleg gynaliadwy sydd, yn eu tro, yn gwella effeithiolrwydd a gwerth yr hyn y mae eich busnes yn ei gynnig mewn marchnad lle mae’r amgylchedd yn gynyddol bwysig."
Mae perchnogion Bryn Bella, llety gwely a brecwast pum llofft ger Betws-y-Coed, wedi datblygu mewn cydweithrediad â busnesau lleol becyn gwyliau lle nad oes angen car. Hwy hefyd oedd y llety cyntaf yng Nghymru i osod man gwefru trydar ar gyfer car.
Mae’r perchennog, Mark Edwards, yn hynod frwd dros yr amgylchedd a dyma oedd ganddo i’w ddweud:
“Mae Gift yn ein galluogi i gysylltu efo pobol o’r un meddylfryd â ni, gan rannu syniadau a dulliau gweithredu gorau. Fel busnes bychan, mae’r cyfle i gymysgu efo busnesau mwy wedi ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’r technolegau a dulliau gweithredu a fyddai fel arall y tu hwnt i’n cyrraedd. Wrth gyfarfod yn rheolaidd, rydym nid yn unig yn cael gwybod am y ddeddfwriaeth ddiweddaraf ond hefyd yn dod i wybod am dechnolegau’r dyfodol. Mae’r datblygu proffesiynol parhaus yn werthfawr ar bob lefel, a thu hwnt o werthfawr i gwmni o’n maint ni, na fyddai fel arall yn medru cadw i fyny efo’r sector. Byddwn yn parhau i hybu a chefnogi GIFT yn y modd gorau y gallwn, rŵan ac yn y dyfodol, a dyna pam ein bod yn hapus i rannu’n stori efo’n cydweithwyr yn Iwerddon.”
Un arall a ymunodd â phroject GIFT yn ddiweddar yw Pete Wilkinson, o Penrallt Coastal Campsite:
“Rydym yn awyddus i rannu a chymharu ein profiadau, dyheadau, breuddwydion, rhwystredigaethau a chyraeddiadau. Rydym yn ymwybodol o’r angen i newid, i gydymffurfio ac i roi arweiniad ar newid, ac yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael rhwydweithio da er budd cyfnewid syniadau a chefnogaeth yn gyffredinol.”
Efo cynlluniau fel compostio tyweli papur ac adfywio mannau blodau gwyllt a rhostir arfordirol, mae Safle Gwersylla Penrallt wedi ennill Achrediad y Ddraig Werdd a safon Aur y Gymdeithas Cadwraeth Forol am eu hymlyniad wrth gynaliadwyedd amgylcheddol.
Esboniodd Stuart Bond, Rheolwr Project GIFT Prifysgol Bangor:
“Mae’r busnesau hyn wedi gweld potensial i’w busnesau ac wedi mynd ati i gymryd rhan yn yr economi werdd. Mae project GIFT wedi medru bod o gymorth iddynt, ac yn cynnig yr un gefnogaeth i gwmnïau eraill sy’n awyddus i ymchwilio i ffyrdd o ddod yn rhan o economi fwy gwyrdd.
Rydym yn awyddus i weithio efo busnesau o bob sector, sydd â diddordeb mewn datblygu eu busnes ar yr egwyddorion hyn. Gallwn drafod problemau busnes neilltuol neu ymchwilio i gyfleoedd. Gallwn roi pob math o gyngor a chefnogaeth i gwmnïau, o ddewis System Reoli Amgylcheddol a’i rhoi ar waith, i edrych ar ynni adnewyddadwy neu reoli gwastraff neu newid mewn ffordd o feddwl a chyfathrebu.”
Bydd y busnesau Cymreig, ynghyd â phartneriaid o Iwerddon, yn arddangos eu gwaith yn yr ail ddigwyddiad Arddangos Dysgu Blynyddol 2013 a gynhelir eleni yn Johnstown Castle, Co. Wexford. Mae tri chategori i’r arddangosiad: Busnesau cynaliadwy yn y sectorau Llety/Antur; Technoleg Werdd a Chymunedau Gwyrdd.
Ariennir Project GIFT gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A).
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013