Tystiolaeth bellach o boblogrwydd Prifysgol Bangor yn cynyddu
Prifysgol Bangor yw’r brifysgol agosaf i’r brig o ran ei gwelliant cyffredinol yn nhablau cynghrair prifysgolion Y Guardian 2016 (Guardian University Guide), a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 26 Mai).
Drwy gofnodi gwelliant o 25 o leoedd ers tablau cynghrair y llynedd, mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd safle 57 allan o 119 prifysgol yn y Deyrnas Unedig, a'r drydedd brifysgol yng Nghymru ar ôl Abertawe (safle 54) a Chaerdydd (safle 27). Gwelwyd gwelliant yng nghyfraddiadau Prifysgol Bangor yn y Guardian University Guide oherwydd bodlonrwydd myfyrwyr, sy'n adlewyrchu ansawdd yr addysgu a'r profiad myfyriwr yn y Brifysgol.
Mae hyn yn gadarnhad pellach o statws cynyddol y Brifysgol, sydd wedi gweld cynyddiad mewn tablau cynghrair yn ogystal â’i phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Yr anrhydeddau mwyaf diweddar oedd ennill Gwobr genedlaethol WhatUni ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau'r Brifysgol, a hyn yn seiliedig ar yr ymatebion cadarnhaol a gafwyd gan fyfyrwyr y Brifysgol, ac yn cael ei rhoi yn safle 14 ym Mhrydain mewn arolwg diweddar ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes: "Rwy'n falch iawn gyda’r perfformiad yma sy'n cydnabod ansawdd rhagorol yr addysgu a’r profiad myfyriwr gwych a geir ym Mhrifysgol Bangor. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'n myfyrwyr am eu cyfraniad ac adborth cadarnhaol, ac i’n staff am eu hymdrechion parhaus. "
Mewn meysydd eraill, mae’r Brifysgol wedi llwyddo gyda chanlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nodwyd fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai’n “benigamp” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”. Mae Bangor hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Ryngwladol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015