Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Cynhaliodd Prifysgol Bangor ymweliad gan Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ddiweddar (15 Awst) yn ystod taith hanesyddol â Chymru. EA Mr Ramocan yw 13eg Uchel Gomisiynydd (UG) Jamaica i'r DU ers i Jamaica ennill ei annibyniaeth ym 1962 a ef yw'r UG cyntaf i ymweld â Chymru yn swyddogol.
Gan ddechrau yng Nghaerdydd gyda chyfarfod o henoed Cenhedlaeth y Windrush, ymwelodd EA Mr Ramocan â mannau o'r brifddinas sydd â chysylltiadau hanesyddol â Jamaica, cyn teithio ymlaen i'r gogledd i Fangor. Yma, croesawyd yr Uwch Gomisiynydd yn ffurfiol i'r Brifysgol gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes ac yna fe’i cyflwynwyd i bapurau Penrhyn-Jamaica'r Brifysgol, cofnodion sydd wedi eu storio a'u casglu fel rhan o Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys mapiau a dogfennau sy'n ymwneud â phlanhigfeydd siwgr mawr Ystad Penrhyn yn Jamaica a'i rôl mewn caethwasiaeth yn y Caribî yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.
Yna, ymwelodd Mr Ramocan â Chastell Penrhyn, cartref hynafol y teulu Pennant, a chafodd daith o amgylch yr adeilad a'r gerddi. Dilynwyd hyn gyda derbyniad dinesig yn Neuadd Penrhyn Cyngor Dinas Bangor, lle cynhaliwyd trafodaethau ar gysylltiadau presennol a rhai’r dyfodol rhwng gogledd Cymru a Jamaica.
Yn dilyn ymweliad yr Uchel Gomisiynydd â’r Brifysgol, meddai’r Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes:
“Roedd yn bleser croesawu Ei Ardderchogrwydd Mr Ramocan i'r Brifysgol ac i ddangos iddo ef a'i ddirprwyaeth rai o'r papurau a'r mapiau sydd yma ym meddiant ein Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau. Maent yn gofnodion hanfodol o amser pan oedd gan y rhanbarth hon berthynas gywilyddus â Jamaica – perthynas sydd bellach, yn ffodus, wedi cael ei gwyrdroi tuag at y cadarnhaol.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2018