UM Bangor yn Ennill Gwobr Cysylltiadau Cymunedol
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill ‘Gwobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru’ yng Nghynhadledd UCM Cymru yng Ngregynog, gan guro pob cymdeithas arall yng Nghymru sy’n cynrychioli myfyrwyr wrth ennill y wobr, a hynny oherwydd y myrdd o weithgareddau a gynhelir gan UM Bangor ynghyd â’r gymuned leol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UM Bangor wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan Bangor, gorymdaith Adennill y Nos o gwmpas y ddinas ac wedi cefnogi Gŵyl Bwyd Conwy drwy annog ein cymdeithasau myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod thema canoloesol. Roedd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd yn hynod o boblogaidd yno ac maent wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd yno flwyddyn nesaf.
Mae’r Undeb hefyd yn rhedeg Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, sy’n cefnogi dros 150 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli gyda’r gymuned leol, gyda phrosiectau mor amrywiol â’r ‘Prosiect Glanhau Traeth’ a ‘Sbectrwm’, ble bydd myfyrwyr yn gweithio gyda phlant sydd ag anawsterau dysgu. Mae eleni hefyd wedi gweld prosiectau newydd yn cael eu sefydlu hefyd - fel cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer hostel mechnïaeth leol. Mae gwirfoddoli myfyrwyr yn mynd i dderbyn hwb sylweddol dros y 12 mis nesaf gan fod y Brifysgol ac UM yn ymroddedig i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr Bangor ennill profiadau gwerthfawr yn gwirfoddoli.
Mae ymgyrch goroesi gwastraff ddiwedd tymor UM yn mynd o nerth i nerth ac yn gweithio law yn llaw â phrosiect GMB Y Rhoi Mawr gan anelu i helpu myfyrwyr wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ddinas a bod yn drigolion parchus a thaclus, a bydd prosiect Y Rhoi Mawr yn casglu eitemau diangen gan fyfyrwyr ar ddiwedd blwyddyn ac yn eu cyfrannu i siopau elusen lleol. Yn ychwanegol eleni, cynhaliodd UM Bangor ymgyrch ‘aflonyddu ar y stryd’ i dynnu mwy o sylw at broblemau yn ymwneud â diogelwch (nid diogelwch myfyrwyr yn unig) o fewn y ddinas, ac fe gafodd dderbyniad da yn y wasg yn lleol.
Ffactor terfynol o ran bod Bangor wedi derbyn y wobr oedd y nifer helaeth o fentrau amgylcheddol sydd wedi bod o fudd i’r amgylchedd lleol yn ogystal â’r campws. Arweiniodd y prosiect i geisio lleihau’r dirywiad yn niferoedd y gwenyn yn lleol i fyfyrwyr blannu miloedd o flodau gwyllt o gwmpas Bangor, tra bod yr Undeb yn parhau i chwilio’n barhaus am ffyrdd o leihau gwastraff myfyrwyr a’r Brifysgol.
Dywedodd Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned:
“Rydym wrth ein bodd bod ein gwaith caled wedi arwain at hyn. Rydym wedi cael blwyddyn eithriadol o brysur, yn cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol ac yn gweithredu ein mentrau ein hunain. Rydym yn gobeithio bod rhai rhannau o’r gymuned yn teimlo budd o bresenoldeb myfyrwyr yn y ddinas a’r cylch.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2012