Un Byd ym Mangor
Dychmygwch noson o offerynnau traddodiadol, dawnsfeydd bywiog a lleisiau hyfryd o bob cwr o'r byd.
Dyna a gafwyd yn ddiweddar wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei Gala Un Byd blynyddol, lle mae myfyrwyr a pherfformwyr o’r gymuned leol yn arddangos eu diwylliannau ar gân, dawns a chyda pherfformiadau offerynnol.
Cafwyd ugain perfformiad gan fyfyrwyr o Tsieina, Siapan, Singapore, Affrica, Fietnam, India, Indonesia, Korea a Chymru mewn digwyddiad sydd wedi datblygu’n uchafbwynt bywiog a lliwgar i ddathlu amrywiaeth ym Mangor.
Llywyddwyd y cyfan gan ddau fyfyriwr rhyngwladol, Raja Asad o Bacistan a Fiona Jia Ng o Malaysia, ac agorwyd y noson gan grŵp drymio lleol, Bloco Sŵn. Roedd y noson yn cynnwys llawer o arddulliau gwahanol gan gynnwys dawnsio stryd o Corea, dawns draddodiadol o India a dawns y glocsen o Gymru. Cafwyd hefyd ddarnau offerynnol gydag offerynnau traddodiadol o Tsieina, Dawns Fietnameaidd, ac i gloi cafwyd cyfres o ganeuon Bollywood.
Roedd brif Neuadd y Brifysgol dan ei sang gyda myfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned leol, a fu’n mwynhau’r cyfan gan godi bron i £700 i elusen leol. Trefnir y Gala flynyddol gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol Prifysgol Bangor a'r gymuned leol. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol arddangos eu diwylliannau traddodiadol i’r myfyrwyr eraill ac i’r gymuned leol ym Mangor.
Dywedodd Angharad Thomas, Cyfarwyddwr Recriwtio Rhyngwladol y Brifysgol:
"Mae'r Gala Un Byd wedi datblygu i fod yn uchafbwynt cyson yng nghalendr cymdeithasol y Brifysgol. Mae'n arddangos doniau ein myfyrwyr rhyngwladol, a'u balchder nhw yn eu diwylliannau cenedlaethol. Mae'r caneuon, y dawnsiau a'r darnau offerynnol yn amlygu'r amrywiaeth sydd gennym yma ym Mhrifysgol Bangor ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi inni rannu a hyrwyddo ein gwahanol ddiwylliannau o fewn y Brifysgol, yn enwedig ar amser cythryblus mewn mannau eraill yn y byd."
Mae’r Gala wedi ei gynnal am oddeutu 15 mlynedd ac mae’n dod yn fwy ac yn well bob blwyddyn. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y gwahaniaeth ymysg y myfyrwyr sy’n dod i’r Brifysgol, a hefyd y croeso maent yn ei dderbyn gan y Brifysgol a’r ddinas. Fel y dywedodd Aditi, un o’r perfformwyr o India, “Roedd Gala Un Byd 2019 yn arddangos y niferoedd o genhedloedd gwahanol sydd yma ym Mangor, drwy gerddoriaeth a dawns. Mae’n llwyfan i ni ddod ynghyd yn y cornel bychan o Gymru i ddathlu diwylliannau lliwgar a gwahanol y byd.”
Meddai Fiona Jia Ng, o Malaysia, ac un o lywyddion y noson: “Er fy mod ond yn fyfyrwraig ryngwladol, cefais y cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad adloniadol tu hwnt! Roedd cael bod y tu ôl i’r llenni am y tro cyntaf yn brofiad gwych. Fel cyd-lywydd y noson ces ddymuno’n dda i bawb cyn iddynt fynd ar y llwyfan. Roedd y profiad yn cael ei ddyblu wrth i mi eu llongyfarch ar eu perfformiadau gwych yr eiliad y daethant oddi ar y llwyfan! Mae’r digwyddiad yn sicr wedi gwneud fy mlwyddyn olaf ym Mangor yr un fwyaf cofiadwy, gyda straeon llawn hwyl i rannu gyda fy ffrindiau gartref!”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019