Un cam yn nes at yr archfarchnad ar gyfer project i droi glaswellt yn ddeunydd pacio bwyd
Mae treialon prototeip yn mynd rhagddo ar gyfer project sy’n cael ei harwain gan brifysgol a diwydiant i droi rhygwellt Cymreig yn ddeunydd pacio bwyd cynaliadwy.
Gan ddefnyddio’r offer mowldio mwydon diweddaraf, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau proses twymo cymysgiadau rhygwellt i wasgu a mowldio mewn i gynnyrch prototeip ar gyfer pacio ffrwythau a llysiau.
Mae cyllid o bron i £600,000 o raglen Cyllid Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cymru yn hwyluso project Cynnyrch Cynaliadwy o Rygwellt (Sustainable Products from Ryegrass -STARS), rhaglen gydweithredol ymchwil rhwng prifysgolion Bangor ac Aberystwyth a chwe phartner diwydiannol, gan gynnwys Waitrose.
Mae’r project yn ymchwilio amrediad o gynnyrch a all eu cynhyrchu o rygwellt, gan gynnwys pacio sydd efo sylfaen ffibr, a all gael ei ailgylchu’n hawdd, ar gyfer bwydydd a deunyddiau nwyddau carbon isel eraill, gan gynnwys biodanwyddau a chemegion platform.
Bydd y partneriaid diwydiannol- gan gynnwys Waitrose ac Adare Advantage – yn darparu’r pacio sylfaen ffibr ar gyfer y treialon mewn archfarcghhnadoedd – hefyd yn cydweithio’n agos efo’r prifysgolion ar y project.
Yn allweddol i sicrhau’r potensial ar gyfer masnacheiddio’r cynnyrch fydd arbenigedd a gwybodaeth masnachol y rhan ddeiliaid diwydiannol.
Mae’r project yn cael ei harwain gan Ganolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor University a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth.
Meddai Dr Adam Charlton, o’r Ganolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor:
“Mae gweithio ar dreialon i gynhyrchu pecynnau prototeip yn nodi cyfnod hanner ffordd gyffrous yn y project ac yn y 12 mis sydd i ddod byddem yn canolbwyntio ar wella’r deunyddiau drwy gydweithio efo Adare a Waitrose.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ac wrth ein boddau i gael gweithio efo cyrff sy’n arwain yn fyd eang ac sydd efo mewnwelediad marchnata o bwys, sy’n cynnig gwir bosibilrwydd i fasnacheiddio nifer o ffrydiau cynnyrch o rygwellt.”
Dywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart: “Mae’n bositif gweld dau sefydliad Cymraeg yn gweithio ar broject mor unigryw i ddefnyddio rhygwellt Cymreig ar gyfer cynnyrch sydd efo potensial masnachol mor enfawr.”
“Mae ysgogi diwydiant gwyrdd yn amcan allweddol Llywodraeth Cymru ac mae’n bositif gweld ein rhaglen Cyllid Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) yn hwyluso cydweithio mor flaengar rhwng prifysgolion a diwydiant i ddod a chynnyrch newydd i’r farchnad.”
Meddai Derek Davies, Rheolwr Technegol Pacio ar gyfer Adare Advantage: “Mae gan Adare eisoes amrediad eang o hambyrddau a basgedi gyda sylfaen ffibr, wedi marchnata o dan frand Fibellus, a bydd y project o bwys yma yn gyfle i ni ymchwilio dichonolrwydd defnyddio’r deunydd crai newydd yma o Gymru fel ffynhonnell pacio ar gyfer bwydydd ac eraill.
“Rydym yn awyddus i ddatblygu ein detholiad o ddewisiadau cyfeillgar i’r ddaear amgen i ffurfiau plastig ac rydym yn hyderus y gall y project yma ymhelaethu ar yr ystod yma o ddewis.”
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013