Un Noson, Un Byd!
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Gala Un Byd, dathliad o amrywiaeth diwylliannol, nos Iau 16 Mawrth.
Yn cymryd rhan yn y cyngerdd fydd myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn ogystal â chynrychiolaeth o’r gymuned leol, yn arddangos eu diwylliannau trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Gellir disgwyl perfformiadau o India, Tsieina, Affrica, Siapan, ac wrth gwrs Prydain a Chymru!
Mae’r Gala, sy’n cael ei threfnu gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol wedi ei chynnal ers dros ddeng mlynedd ac wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr y Brifysgol.
Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae’r drysau ar agor o 7.30, gyda’r perfformiadau’n cychwyn am 7.30.
Bydd y Brifysgol yn casglu arian tuag at Wamumbi Orphan Care Foundation, elusen fechan sydd yn cefnogi plant amddifad yn Kenya a sefydlwyd gan ddarlithydd o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Caiff unrhyw roddion eu croesawu’n fawr. Ceir rhagor o wybodaeth am yr elusen yma <http://wamumbiorphancare.org.uk/>.
Bydd gemwaith a wneir â llaw a chacennau ar gael a bydd yn holl elw yn mynd at yr elusen. Cynhelir raffl a bydd bar yn gwerthu diodydd yno hefyd.
Bydd hon yn noson gyfeillgar a hwyliog ar gyfer y teulu cyfan!
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017