Un o raddedigion Bangor yn cipio gwobr Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydeinig
Mae cyn fyfyriwr Bioleg Forol Gymhwysol Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr fawreddog ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Cipiodd Richard Shucksmith o Ynys Shetland wobr gyntaf y British Wildlife Photography Awards 2011 am ei lun gwefreiddiol o slefren fôr a chafodd ei dynnu oddi ar arfordir Sula Sgeir, ynys anghysbell yn yr Hebrides Allanol. Cafodd llun Richard dipyn o glod gan feirniaid y gystadleuaeth.
Meddai Greg Armfield, Rheolwr Ffotograffiaeth a Ffilm y WWF "Mae'n llun wirioneddol hardd o slefren fôr sy'n cipio'n berffaith ei liwiau a’i rinweddau hudol. Mae'n fwy rhyfeddol byth ei fod yn byw yn nyfroedd y DU. Gwych. "
Dywedodd barnwr y Gystadleuaeth Paul Wilkinson, Pennaeth Tirluniau Byw'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, "Rydym yn falch iawn o weld fod cynifer o bobl o bob cwr o'r DU wedi cael eu hysbrydoli gan y gystadleuaeth i archwilio natur yn eu hardal leol.
“Mae ceisiadau eleni yn adlewyrchu gwir gariad tuag at fywyd gwyllt lleol. Mae'r gystadleuaeth yn gyfle arbennig i gydnabod y byd naturiol sydd o'n gwmpas, a'r parch y mae'n ei haeddu."
Gweler llun Richard ‘Jellyfish in the Blue Sea of Sula Sgeir’ yma: http://www.bbc.co.uk/nature/15061273
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2011