Un o raddedigion Bangor yn ennill Pride of Britain
Llongyfarchiadau i Llew Davies, un o raddedigion Prifysgol Bangor, sydd newydd ennill Wobr Pride of Britain.
Mae'r athro 29 blwydd oed, a raddiodd gyda gradd mewn Addysg Gynradd yn 2004, bellach yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Cae Top ym Mangor, a llynedd enillodd teitl Athro'r Flwyddyn y DU.
“Mae’r llwyddiant Llew yn dod â chlod i’r Brifysgol ac i’r Ysgol Addysg. Mae’n wych gweld athro sydd wedi hyfforddi efo ni yn llwyddo i’r fath raddau. Mae Llew wedi parhau i gadw mewn cysylltiad efo’r Brifysgol ers iddo raddio, ac yn cydweithio efo staff mewn sawl ffordd. Mae’n fentor i athrawon sy’n hyfforddi yn ei ysgol ac yn dod a disgyblion i weithdai yn yr Ysgol Addysg. Mae ei ddisgyblion, o dan ei oruchwyliaeth, wedi cael llwyddiant wrth ennill cystadleuaeth F1 cynradd sy’n cael ei threfnu gan ein Canolfan Dylunio a Thechnoleg,” meddai Janet Pritchard, Pennaeth yr Ysgol.
Mae Gwobrau Pride of Britain yn dathlu llwyddiannau rhai o arwyr di-glod y genedl. Disgrifiwyd Llew Davies fel athro na fydd yr un disgybl yn ei anghofio.
Mae Llew Davies yn athro ymgynghorol ar gyfer gwyddoniaeth, hyfforddwr TGCh ar gyfer yr Awdurdod Lleol ac yn adnabyddus am ei ddulliau arloesol o addysgu a pharodrwydd i rannu ei arbenigedd gydag eraill. Mae hefyd yn athro ymgynghorol ar gyfer gwyddoniaeth. Mae'n ymwneud â bywyd ehangach yr ysgol, bob dim o gymryd pêl-droed a hyfforddiant rygbi i arwain yr ysgol ar brosiectau sy'n ymwneud â'r amgylchedd a menter.
Bydd uchafbwyntiau’r Gwobrau i'w gweld ar ITV1 am 8.00 o'r gloch Dydd Mercher Hydref 5, 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011