Un o Raddedigion SENRGY yn ennill gwobr ‘Peiriannydd Amgylcheddol Ifanc y Flwyddyn’ 2011
Yn ddiweddar fe wnaeth James Regan, a gafodd radd BSc mewn Gwyddor yr Amgylchedd, ennill gwobr The Society of Environmental Engineers (SEE), 'Peiriannydd Amgylchedd Ifanc y Flwyddyn 2011’.
Rhoddir y wobr yn flynyddol i beiriannydd dan 35 oed sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i beirianneg amgylcheddol.
Fe wnaeth James, sy’n Uwch Beiriannydd Geo-amgylcheddol gyda Sirius Midlands, gyflwyno project yn ymwneud â throi safle tir llwyd gwag a diffaith yn safle preswylio diogel.
Meddai James “Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith a wneir gan beirianwyr geo-amgylcheddol yn ymwneud ag asesu, archwilio ac adfer safleoedd sydd wedi cael eu niweidio a’u llygru gan weithgareddau diwydiannol blaenorol. Yn ystod unrhyw wythnos arferol gall fy ngwaith gynnwys amrywiaeth o dasgau, yn cynnwys cynnal arolygon amgylcheddol, archwilio safleoedd, ymchwilio i safleoedd, asesu risgiau a chyfarfod â rheolyddion."
Yn ddiweddar cafodd James statws Amgylcheddwr Siartredig.
Gellir cael manylion pellach yn The Society of Environmental Engineers Newsletter.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2012