Undeb Myfyrwyr Bangor â chyfle i ennill mwy o wobrau
Yn dilyn ennill tair gwobr amgylcheddol o bwys y llynedd, mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn falch o fod wedi cyrraedd rowndiau terfynol Her Gyfathrebu’r Ecologist unwaith eto.
Y llynedd enillodd yr Undeb Wobr yr Ecologist am ei ymgyrch ffotograffau’r Canllaw Goroesi Gwastraff, gan gyrraedd y rhestr fer ac yn y pendraw ennill y bleidlais ar-lein, ac rydym yn awyddus iawn i ddal gafael ar y teitl yng nghystadleuaeth eleni.
Ffilm oedd y cyfrwng a ddewiswyd ar gyfer y gystadleuaeth eleni a gofynnodd Undeb y Myfyrwyr i fyfyriwr Cyfathrebu a’r Cyfyngau sy’n bwrw prentisiaeth addawol fel gwneuthurwr fideo, Osian Williams, i gynnig help llaw. Mae Osian yn 19 oed ac yn ei ail flwyddyn yn astudio Cyfathrebu a’r Cyfryngau.
Dywed Osian fod ganddo ddiddordeb wedi bod yn yr amgylchedd ers amser maith: “Rwy’n hynod o ffodus fy mod yn byw mewn dau le sy’n cynnig harddwch naturiol eithriadol. Rwyf ar hyn o bryd yn y brifysgol ym Mangor yn y Gogledd, sydd wedi’i hamgylchynu gan brydferthwch dramatig Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae fy nghartref yn y De wrth ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rwyf hyd yn oed yn fwy ffodus fy mod yn gallu cadw cofnod o’m troeon/teithiau cerdded gyda thechnoleg recordio digidol cyfoes. Rwy’n deall nad yw pawb yn y byd mor ffodus yn ddaearyddol ag ydw i. Ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Rydym ar hyn o bryd y byw mewn cyfnod pan fo’r amgylchedd yn gryf ac yn bresennol. Efallai na fydd pobl ymhen can mlynedd mor ffodus. Dyna pam na ddylem ddefnyddio ein hamser yn condemnio dyfodol ein hamgylchedd prydferth.’’
Mae cais Bangor, ‘Un Bywyd’, yn canolbwyntio ar brydferthwch ac amrywiaeth amgylchedd naturiol Cymru a’r ffaith foel mai dim ond un blaned sydd gennym a’r angen i ni warchod yr hyn sydd gennym cyn iddo gael ei golli.
Dywedodd Rich Gorman, yr Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned ei bod “yn anhygoel ein bod wedi mynd mor bell yn y gystadleuaeth hon unwaith eto, a buasem wrth ein boddau yn ennill eto eleni. Mae’r fideo’n canolbwyntio ar brydferthwch naturiol Cymru, a byddai’n wych cael cefnogaeth myfyrwyr, staff a’r gymuned leol er mwyn i ni allu arddangos amgylcheddau naturiol aruthrol Cymru i bawb.”
Mae pleidleisio yn y cystadleuaeth yn gorffen am 4.00 Mawrth 2il a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 4 Ebrill.
I wylio ‘Un Bywyd’ a phleidleisio dros Fangor, ewch at
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2012