Undeb Myfyrwyr Bangor yn ennill dros yr amgylchedd
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill nid un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith amgylcheddol yn ddiweddar.
Gwobrwywyd yr Undeb efo Gwobr Aur yng Ngwobrwyon ‘Green Impact’ yr NUS (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), wedi iddynt ennill Gwobr Efydd yn eu hymdrech gyntaf y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y gwelliant sylweddol yn eu safle yn golygu eu bod hefyd yn teilyngu ennill Gwobr y Co-operative i’r ‘Undeb sydd wedi Gwella Fwyaf’ ar sail y cynnydd eithriadol yn eu perfformiad.
Cynllun achredu amgylcheddol sy’n cael ei gynnal gan yr NUS yw Green Impact, lle caiff perfformiad amgylcheddol undebau myfyrwyr eu meincnodi’n annibynnol. Mae’r Wobr yn rhoi her i Undebau Myfyrwyr ddilyn y dulliau gweithredu gorau yn ymwneud â’r amgylchedd ac ystyried cynaladwyedd wrth gynnig gwasanaethau i fyfyrwyr. Nod y Gwobrau hefyd yw tynnu sylw at y gwaith da mewn perthynas â’r amgylchedd a wneir mewn Undebau Myfyrwyr a’u cyflwyno i’r cyhoedd.
Enillodd Undeb y Myfyrwyr drydedd wobr genedlaethol, Her Cyfathrebu The Ecologist , ar sail llun o’u hymgyrch i hybu ailgylchu. Nod yr ymgyrch ‘Cynllun Trechu Sbwriel’ yw helpu i gadw strydoedd Bangor yn lân a thaclus drwy annog myfyrwyr i chwarae’u rhan drwy gael gwared ar sbwriel a gwneud yn siŵr fod gwastraff yn mynd i’r blychau ailgylchu priodol.
Meddai Rich Gorman, Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr sydd â chyfrifoldeb dros Gymdeithasau a Chynaladwyedd: “Dyma lwyddiant gwych arall i Undeb y Myfyrwyr Bangor. Rydym wedi profi bod yr amgylchedd yn flaenoriaeth o bwys ac rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol ond gan barhau i ddarparu gwasanaethau, cefnogaeth a chynrychiolaeth ar ran ein myfyrwyr.”
Mae lluniau’r seremonïau a’r llun ymgyrchu ar gael gan press@bangor.ac.uk
Mae Undeb y Myfyrwyr yn hybu neu’n cynnal projectau fel:
- Rhandiroedd myfyrwyr- i dyfu bwyd organig
- STAG Grŵp Gweithredu Myfyrwyr dros Dreborth <http://www.undeb.bangor.ac.uk/societies/socsdetails.asp?club=48> Gwirfoddoli yng Ngardd Fotanegol Treborth i hybu a datblygu bioamrywiaeth
- Newid y ddau bapur newydd i gael eu hargraffu ar bapur 100% wedi’i ailgylchu
- Cynnal Pythefnos Masnach Deg gan hybu pwysigrwydd Masnach Deg
Am ragor o fanylion cysylltwch a rich.gorman@undeb.bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2011