Undeb Myfyrwyr Bangor yn ennill gwobr am ei gwaith cynaliadwyedd
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr Rhagoriaeth Effaith Werdd UCM, ac roeddent hefyd yn un o'r pum Undeb Myfyrwyr sgoriodd uchaf yn genedlaethol ar gyfer eu prosiect Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor. Mae hyn yn adlewyrchu ymroddiad myfyrwyr lleol i weithredu’n amgylcheddol gadarnhaol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan droi eu hundeb yn ganolbwynt cynaliadwyedd wrth galon y gymuned ehangach.
Roedd hwn yn brosiect gwobrwyo blwyddyn o hyd, oedd yn caniatáu i undebau myfyrwyr sydd wedi ennill gwobr Aur Effaith Werdd am ddwy flynedd yn olynol i gymryd seibiant am flwyddyn ar y llyfr gwaith. Mae'r fframwaith rhagoriaeth yn rhoi cyfle i undebau myfyrwyr weithio gyda'u sefydliadau ar fenter gynaliadwyedd ehangach, gan greu prosiectau trwawsffurfiol, gyda chefnogaeth ac arweiniad gan UCM.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio ar brosiect cymunedol Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor. Ffocws y prosiect rhagoriaeth oedd creu partneriaeth gymunedol a arweinir gan fyfyrwyr i gynnwys myfyrwyr mewn bywyd dinesig a chymunedol wrth ddatblygu partneriaethau strategol gyda rhanddeiliaid allweddol.
Llwyddodd yr Undeb Myfyrwyr i recriwtio tri Warden Cymunedol Myfyrwyr o wahanol lefelau o astudiaeth a’i hyfforddi’n bwrpasol i ymgysylltu â'r Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Preswylwyr, cynghorwyr lleol, Coleg Menai a'r Brifysgol. Bu i’r prosiect Rhagoriaeth gael lansiad llwyddiannus ac ymgynghoriad i feithrin cysylltiadau a diddordeb allweddol mewn gweithio ar fentrau a arweinir gan fyfyrwyr. Y cyntaf o'r rhain a gafodd ei arwain gan y Wardeiniaid Cymunedol Myfyrwyr, oedd yr ymgyrch Caru Bangor Casáu Gwastraff, a datblygwyd canolbwynt gwybodaeth ac adnoddau ar-lein hefyd i ategu gwaith y bartneriaeth. Mae'r Brifysgol a'r Cyngor wedi penderfynu cefnogi datblygiad y Bartneriaeth sy'n argoeli'n dda ar gyfer llwyddiant hirdymor y prosiect hwn.
Cymerodd dros 100 o undebau myfyrwyr ledled y DU ran yn y gystadleuaeth eleni, gan gymryd camau megis sefydlu siop elusen ar y campws, cynnal sesiynau bioamrywiaeth gydag ysgolion lleol, lobïo am gampws-eco a hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws y gymuned ehangach.
Dywedodd Rhys Taylor, cyn Lywydd UM Bangor a sefydlodd y prosiect: "Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol arall i Undeb Myfyrwyr Bangor, yn arwain y ffordd gyda gweithredu cadarnhaol yn gymuned ym Mangor; rydym wedi profi ein bod yn gwneud gwaith rhagorol yn ymwneud â chynaliadwyedd. Rydym yn gobeithio y bydd Partneriaeth Caru Bangor yn mynd o nerth i nerth drwy weithio gyda'r gymuned ar ymgyrchoedd yn ymwneud â newid ar dai, cynaliadwyedd, democratiaeth, ymgysylltiad dinesig a llawer mwy. "
Dywedodd Is-lywydd UCM (Cymdeithas a Dinasyddiaeth) Piers Telemacque:
"Yn UCM, rydym yn llwyddo i ymgorffori cynaliadwyedd ar draws campysau, cwricwla a chymunedau, ac mae Effaith Gwyrdd wrth wraidd yr ymdrechion hyn".
"Mae'n fwy na dim ond gwneud yn siŵr bod undebau myfyrwyr yn lleihau gwastraff ac arbed ynni. Mae'n ymwneud â ymgorffori arferion ein myfyrwyr sy'n para am oes, sy’n cael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau"
"Mae mor ysbrydoledig gweld miloedd o fyfyrwyr sy'n defnyddio Effaith Werdd i lunio'r dyfodol cynaliadwy y maent am ei weld, ac mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi bod yn rhan enfawr o hynny. Dylent fod mor falch. "
Mae Effaith Werdd yn cynnig fframwaith ar gyfer staff a myfyrwyr i wella cymwysterau moesegol ac amgylcheddol eu hundeb. Yn dilyn archwiliad amgylcheddol llawn, mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ei gwobrwyo am eu llwyddiannau fel rhan o'r cinio gala blynyddol yng Nghonfensiwn Gwasanaethau UCM.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015