Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Amgylcheddol Genedlaethol
Gwobrwywyd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) ym Manceinion.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad ac eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed, sef 105 o undebau, yn cystadlu. Mae’r gwobrau yn rhan o fenter Effaith Gwyrdd UCM sy’n cynnig achrediad amgylcheddol i undebau myfyrwyr, ac yn helpu undebau i ddwyn sylw at eu harferion amgylcheddol rhagorol.
Enillodd Undeb Myfyrwyr Bangor eu gwobr am amrywiaeth eang o weithgareddau amgylcheddol ac arferion gorau, o brosiectau i helpu lleihau’r gostyngiad yn y niferoedd o wenyn a arweiniodd at blannu miloedd o flodau gwyllt o gwmpas Bangor, at fenter ailgylchu flaengar yn casglu hen ‘bras’ i’w hailddefnyddio mewn rhannau eraill o’r byd. Hefyd fe gefnogodd yr Undeb Bythefnos Masnach Deg a’r Wythnos Werdd, yn ogystal â gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd i annog myfyrwyr i ailgylchu a chadw Bangor yn daclus!
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Fangor dderbyn cydnabyddiaeth am eu perfformiad eithriadol yn amgylcheddol, gan dderbyn ‘Gwobr Gwelliant Mwyaf’ y Co-operative a Gwobr ‘Her Cyfathrebu’ The Ecologist yng Ngwobrau Effaith Gwyrdd 2011.
Dywedodd Rich Gorman, Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned, “Mae’n anhygoel cael ein henwi’n Undeb y Flwyddyn; rydym wedi dod yn bell iawn yn gyflym iawn, ddwy flynedd yn ôl dim ond ar lefel Efydd oeddem ni, a nawr rydym y gorau yn y DU”.
Dywedodd yr Athro John G. Hughes, yr Is-Ganghellor “Mae hwn yn gyrhaeddiad aruthrol, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm ag ennill y wobr yma.
Rydym yn falch iawn ym Mhrifysgol Bangor o’r gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â’r amgylchedd, ac mae cymuned y Brifysgol yn gweithio’n galed i ddiogelu a gwella’r cynefin rhyfeddol rydym yn byw, astudio a gweithio ynddo. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn gysylltiedig.”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012