Wardeniaid yn herio’r Wyddfa
Dringodd wyth o wardeniaid neuaddau'r Brifysgol i fyny’r Wyddfa yn ystod y nos yn ddiweddar, gyda’r nod o gyrraedd y copa erbyn toriad gwawr.
Y criw dewr a ddechreuodd ar y daith am dri o’r gloch y bore oedd: Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith), Alexander Aldred (Ysgol Busnes), Caoimhe Martin (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Chin Wei Ong (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Hayley French (Ysgol Ieithoedd Modern), Gwawr Parker (Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd), Lindsey Swift (Ysgol Ieithoedd Modern), a Max Davidson (Ysgol Seicoleg). Mae pob un ohonynt a wynebodd yr her yn wardeniaid y Brifysgol ar safle Ffriddoedd. Cawsant eu harwain ar hyd llwybr y mwynwyr o Lanberis gan eu harweinydd diogelwch Alexander, sydd hefyd yn gomisiynydd sgowtiaid chwilota ardal Gwynedd.
Gosodwyd yr her o ddringo’r mynydd 1085 metr, yr uchaf yng Nghymru, Lloegr a’r Iwerddon, er mwyn codi arian at elusennau o’u dewis. Dyma’r tro cyntaf i bedwar aelod o’r grŵp ddringo i fyny’r Wyddfa. Disgrifiodd Stephen Clear y tywydd am 3am fel “oer, gwlyb, eira trwm ac yn dywyll.”
Llwyddodd y tîm cyfan i gyrraedd y copa ychydig ar ôl 7:05am, 5 munud cyn eu targed o doriad gwawr. Mwynhaodd y tîm y golygfeydd gwych ar eu ffordd yn ôl i Lanberis. Meddai Caoimhe Martin, “Yn anffodus nid oeddem yn gallu gweld y wawr o ben yr Wyddfa oherwydd y cymylau eira, ond trwy lwc wrth i ni ddod allan o’r cymylau ar y ffordd i lawr roeddem yn gallu gweld y golygfeydd a gwerthfawrogi ein bod yn byw mewn lle mor hardd."
Hyd yma mae’r tîm wedi codi dros £1,000 ar gyfer pum elusen wahanol trwy gymorth rhodd. Yr elusennau yw Home-Start, Barnsley Hospice, Great Ormond Street Hospital, Veterans Aid a’r RAF Association.
Os hoffech gyfrannu at un o’r elusennau hyn, neu at ymdrech tîm y wardeniaid, ewch i’w tudalen Just-Giving. www.justgiving.com/teams/Bangor-Wardens
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012