WAW! Wythnos Am Wastraff
Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor ynghyd â sefydliadau lleol a chenedlaethol, wedi bod allan yn glanhau'r strydoedd a'r campysau ar draws Bangor, gan godi ymwybyddiaeth a rhannu syniadau am ailddefnyddio ac ailgylchu yn ystod Wythnos Am Wastraff.
Mae'r Lab Cynaliadwyedd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Campws Byw, Neuaddau Preswyl, Tai Myfyrwyr, Cadwch Gymru'n Daclus, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a Chyngor Gwynedd i gynnal ystod gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau fel rhan o WAW - Wythnos Am Wastraff. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a llety preifat, diwrnod casglu sbwriel a diwrnod rhannu gwybodaeth.
Ymwelodd ymgynghorwyr â 287 o fflatiau neuaddau myfyrwyr ar y dydd Mawrth, gan edrych ar ymddygiadau ailgylchu, ateb cwestiynau a darparu cyngor i 252 o fyfyrwyr. Bu cynghorwyr hefyd yn ymweld â channoedd o fyfyrwyr mewn llety preifat trwy gydol dydd Llun, Mawrth a Mercher. Cafwyd 2 sesiwn casglu sbwriel llwyddiannus o dan arweiniad Cadwch Gymru'n Daclus ym mhentrefi Myfyrwyr y Santes Fair a Ffriddoedd ar y dydd Mercher, casglwyd dros 20 bag o sbwriel. Cynhaliwyd diwrnod rhannu gwybodaeth ar y dydd Iau yn dderbynfa Prif Adeilad y Celfyddydau, lle’r oedd cyfle i staff a myfyrwyr drafod unrhyw faterion yn ymwneud â gwastraff, a chael cynnig ar ein gêm ailgylchu newydd.
Roedd y Brifysgol hefyd wedi partneru â Phrifysgol Makerere yn Uganda i gynnal WAW ar draws y cyfandiroedd. Roedd eu gweithgareddau'n cynnwys casglu sbwriel, didoli sbwriel, arddangos negeseuon gwastraff a sticeri mewn lleoliadau strategol ar draws y campws, ac arddangosfa ‘upcycling’ o gadeiriau eco, clustdlysau a llawer mwy.
Dywedodd Trefnydd WAW a Chydlynydd Gwastraff Tîm Perfformiad Amgylcheddol Bangor, Gwen Holland:
"Mae Bangor wedi sefydlu ei hun fel Y Brifysgol Gynaliadwy, ac mae gwastraff yn rhan fawr o'i heffaith ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol. Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella ein cyfraddau lleihau-ailddefnyddio-ailgylchu ac yn lleihau faint o wastraff yr ydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi. Er mwyn gwneud hyn mae angen i bawb ddod at ei gilydd - myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, sy'n golygu bod cyfathrebu'n allweddol. Trefnwyd WAW i wneud yn union hynny, cryfhau cyfathrebu er mwyn dangos i bobl yn syml, ffyrdd bob dydd o sut y gallent wneud gwahaniaeth."
Meddai Gabriel Paul Hibberd, Cydlynydd Campws Byw a myfyriwr Coedwigaeth a Chadwraeth:
"Mae'r Labordy Cynaliadwyedd a Campws Byw yn gobeithio ymgysylltu â digon o unigolion i wneud gwahaniaeth. Mae annog ymwybyddiaeth o wastraff ledled y Brifysgol yn werth chweil ac yn gallu arbed arian i fyfyrwyr yn y dyfodol. Diolch i'r Lab Cynaliadwyedd, Campws Byw a'n gwirfoddolwyr, mae gennym bellach gampws glanach a mwy ymwybodol."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2017