Wedi ei hailsefydlu, Cymdeithas Ddrama Gymraeg yn cynnig dau gynhyrchiad
Yn dilyn ailsefydlu Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, hen gymdeithas fyfyrwyr a sefydlwyd ym Mhrifysgol Bangor ym 1923, dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry, mae’r Gymdeithas bellach yn barod i gyflwyno ei chynyrchiadau cyntaf.
Bydd y Gymdeithas yn perfformio 'Siwan' gan Saunders Lewis ar 6 Rhagfyr a 'Bobi a Sami' gan Wil Sam ar 29 Tachwedd.
Bydd y ddau berfformiad yn digwydd yn Neuadd John Philips y Brifysgol ar Ffordd y Coleg am 7.00 o’r gloch. Pris y tocynnau fydd £5 a byddant ar gael wrth y drws.
Fel yr esbonia Llŷr Titus, Swyddog Marchnata Cymdeithas y Ddrama Gymraeg: “Dyma berfformiadau cyntaf y Gymdeithas o ddwy ddrama gyflawn ers ei hailsefydlu. Fe wnaethon ni ddewis Bobi a Sami yn rhannol am fod gan Wil Sam gysylltiad â'r Gymdeithas yn y gorffennol a hefyd am i ni berfformio detholiad ohoni yn ystod noson lansio’r gymdeithas a bod yr ymateb wedi bod yn hynod o ffafriol. Dewiswyd Siwan am ei bod yn glasur poblogaidd ac yn ddrama a fyddai'n cynnig her i'r cyfarwyddwyr a'r actorion. Mae'r ddwy ddrama yn cynnig cyferbyniad trawiadol hefyd.”
Ychwanegodd: “Roedd y myfyrwyr yn awyddus i sefydlu cwmni drama a fyddai’n fodd o ddwyn myfyrwyr Cymraeg y brifysgol at ei gilydd i ychwanegu at y profiad o ddysgu a chymdeithasu.”
Os hoffech ymuno â’r Gymdeithas, anfonwch neges i’r cyfeiriad hwn: wepe0a@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013