‘Welsh Women’s response to the First World War’
Darlith Dydd y Cofio Cynulliad Cenedlaethol Cymru – ‘Welsh Women’s response to the First World War’
Mae'n bleser cael cyhoeddi y bydd y Cysylltai Ymchwil er Anrhydedd, Dr Dinah Evans, yn traddodi Darlith Dydd y Cofio Cynulliad Cenedlaethol Cymru - 'Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf' ddydd Mawrth 6 Tachwedd, yng Nghaerdydd.
Astudiodd Dinah ym Mangor fel myfyriwr israddedig ac ôl-radd, dan oruchwyliaeth yr Athro Duncan Tanner. oedd Dr Dinah Evans yn dysgu Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Bangor tan 2016. Hyd at yr haf hwn, hi fyddai’n trefnu rhaglen Cyfres Seminarau Ymchwil Ysgol Hanes y Brifysgol ac mae'n parhau i weithio i’r Brifysgol fel Ymchwilydd Cyswllt Anrhydeddus. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddau ryfel byd ar Gymru a chymdeithas Cymru. Cyhoeddwyd ei gwaith ymchwil i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod Cymru mewn pennod yn Creithiau yn 2016 ac, ar hyn o bryd, mae'n ymchwilio i’r gwaith o ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel, ac yn paratoi i gyhoeddi’r ymchwil hwn yn gynnar yn 2019.
Rydym wrth ein bodd bod Dinah wedi cael gwahoddiad i gyflwyno'r ddarlith mewn digwyddiad mor fawreddog.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2018