‘Why write the history of Wales – then and now?’: darlith gyhoeddus gan hanesydd blaenllaw
Ar adeg pan fo'r cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn bwnc trafod cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amserol ystyried dulliau o ysgrifennu hanes Cymru, yn y gorffennol pell ac yn fwy diweddar. Bydd yr hanesydd blaenllaw o Gymro, yr Athro Huw Pryce, yn trafod y pwnc hwn ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 25 Mawrth am 6pm, yn Ystafell Ddarlithio 4 Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae croeso i bawb i'r ddarlith, sy'n dwyn y teitl 'Why write the history of Wales – then and now?'.
Dywedodd yr Athro Pryce “Dros y degawd diwethaf rwyf wedi ymddiddori fwyfwy yn y ffordd y câi hanes Cymru ei ysgrifennu a'r hyn y mae hynny'n ei ddysgu inni am y ffordd yr ystyrid y gorffennol a datblygiad hunaniaethau, yn enwedig mewn cenhedloedd bychain”. Bydd yn archwilio pam, hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif, y canolbwyntid wrth ysgrifennu hanes Cymru ar darddiad y Cymry a thywysogion y canoloesoedd, a pham y bu ehangu sylweddol ers hynny ar ei gwmpas cronolegol a thematig, gan gyfoethogi a chymhlethu ein dealltwriaeth ni o orffennol Cymru.
Mae Huw Pryce yn Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar hanes Cymru'r Oesoedd Canol ac ar ysgrifennu hanes Cymru. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu llyfr o'r enw Writing Welsh History: Medieval Legacies and Modern Narratives.
Traddodir Darlith O'Donnell mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2019