Wynebu'r dyfodol - Prifysgol Bangor yn derbyn grant sylweddol i ymchwilio i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol yn ein dinasoedd
Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol (AI) ddechrau cael ei gyflwyno mewn dinasoedd clyfar, mae tîm o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol i astudio ffyrdd y gall dinasyddion fyw'n gytûn â thechnolegau sy'n synhwyro, dysgu a rhyngweithio â'u hemosiynau, eu hwyliau a'u bwriadau.
Mae 'Emotional AI in Cities: Cross Cultural Lessons from UK and Japan on Designing for An Ethical Life' yn broject 3 blynedd a gyllidir ar y cyd gan gynghorau ymchwil o Brydain a Japan ac fe'i harweinir gan Andrew McStay, Athro Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Japan a'r Deyrnas Unedig mewn man tyngedfennol lle gellir paratoi strwythurau technolegol, cymdeithasol a llywodraethu yn briodol cyn mabwysiadu AI Emosiynol ar raddfa fawr. Yn achos dinasoedd clyfar, yn ddiweddar gwelwyd diffyg ymddiriedaeth yn yr isadeiledd dinesig diweddaraf a'r dulliau o'i reoli, a hynny mewn dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol ynghylch defnyddio technolegau canfod ac adnabod wynebau.
Er bod Japan a'r DU yn genhedloedd datblygedig o ran datblygu a mabwysiadu AI, maent yn wahanol o ran hanes cymdeithasol, gwleidyddol, normadol a thechnegol. Ymhlith materion eraill a fydd yn rhoi cyfle sylweddol ar gyfer ymchwil y tîm ceir rhesymeg technolegau synhwyro ac i ba raddau y mae arddangos emosiwn yn gyffredinol ar draws diwylliannau; natur gwahaniaethau ethnocentrig yn y ffordd y defnyddir cyfryngau cymdeithasol a mynegi emosiwn ar-lein; a gwahaniaethau posibl rhwng cysyniadau Japaneaidd ac Ewropeaidd o'r hyn a ystyrir yn breifatrwydd a data sensitif.
Yn ogystal â chyfweld rhanddeiliaid allweddol sy'n datblygu neu'n defnyddio AI emosiynol mewn dinasoedd clyfar, bydd y tîm ymchwil rhyngwladol yn archwilio dulliau llywodraethu (deddfau, normau, gwerthoedd) ar gyfer casglu a defnyddio data personol am emosiynau mewn mannau cyhoeddus i ddeall sut mae'r rhain yn llywio datblygiadau technolegol AI Emosiynol. Bydd yn ceisio deall agweddau dinasyddion amrywiol tuag at AI Emosiynol, a bydd yn cyd-ddylunio gweledigaethau creadigol, a arweinir gan ddinasyddion, o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw yn foesegol ac yn dda gydag AI Emosiynol mewn dinasoedd. Yn y pen draw, ei nod yw bwydo'r holl elfennau a ganfuwyd drwy'r ymchwil, gan gynnwys barn dinasyddion, yn ôl i'r rhanddeiliaid amrywiol, yn cynnwys llywodraethau, diwydiant ac addysgwyr sy'n llunio'r modd y defnyddir AI Emosiynol mewn dinasoedd.
Wrth edrych ymlaen at yr astudiaeth, dywedodd yr Athro Andrew McStay: 'Dim ond rhyw 5 mlynedd yn ôl, roedd AI Emosiynol yn rhywbeth a oedd wedi'i gyfyngu i fusnesau newydd a oedd yn ceisio creu gwasanaethau allan o gyfrifiadura affeithiol. Heddiw, mae'r cwmnïau mwyaf yn defnyddio systemau AI emosiynol a thechnoleg empathig mewn ceir, strydoedd, ystafelloedd dosbarth, cartrefi a mwy. Mae ei bresenoldeb yn tyfu mewn sectorau amrywiol, gan ddod yn amlwg iawn mewn dinasoedd clyfar. Yn achos Japan a'r Deyrnas Unedig, mae angen i ni wybod rhag blaen beth yw goblygiadau cymdeithasol ymddangosiad y technolegau hyn, sut y cânt eu defnyddio yn ein dinasoedd, beth sy'n dod nesaf, sut mae dinasyddion yn teimlo amdanynt, a yw polisïau'n briodol, a lle moeseg data mewn cymdeithasau sydd â hanes a demograffeg tra gwahanol i'w gilydd.'
Am fwy o wybodaeth am hyn, a phrojectau cysylltiedig, gweler y Lab AI Emosiynol .
Cyllidir y project hwn ar y cyd gan gynghorau ymchwil y DU a Japan fel rhan o'r UKRI-JST Joint Call on Artificial Intelligence and Society . Mae'n gweithredu rhwng 1 Ionawr 2020 - 31 Rhagfyr 2022. Gwerth ei Gost Economaidd Llawn yw oddeutu £710,000 (yn cynnwys £497,710 gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI a 29,645,000 Yen o gronfeydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Japan).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020