Wythnos Busnes Gwynedd 23-27 Mai 2011
Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn ôl unwaith eto eleni, gan ddod â busnesau at ei gilydd i gyfnewid syniadau, cael cyngor a gwybodaeth, a dathlu llwyddiannau lleol.
Fel un o noddwyr Wythnos Busnes Gwynedd, mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at agor drysau’r Ganolfan Rheolaeth ar gyfer y brecwast busnes i lansio’r achlysur a chyfres o weithdai, “Gadewch i Ni Siarad Busnes”. Bydd y brecwast yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda phanel o wahoddedigion. Noddir yr achlysur hwn gan Software Alliance Wales.
Uchafbwynt yr wythnos fydd Gwobrau Busnes Gwynedd ac eleni bydd y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi yn noddi’r Wobr Arloesi. Meddai David Joyner, Cyfarwyddwr Partneriaeth Busnes, “Ein gwaith yn y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi yw trosglwyddo gwybodaeth o academia i fyd busnes a diwydiant. Rydym yn gweld y Wobr Arloesi fel ffordd wych o dynnu sylw at y syniadau gorau sydd wedi cael eu datblygu’n fasnachol. Unwaith eto rydym yn edrych ymlaen at weld rhestr gref o enwebiadau am y wobr hon a’r gwobrau eraill.”
Ewch i’r wefan i gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle yn yr achlysur o’ch dewis.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2011