Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos
Mae'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos ac mae'r gwirfoddolwyr yn rhannu te a chwtsh!
Bwriad yr Wythnos ydy hyrwyddo’r gwasanaeth gwrando gwerthfawr sydd ar gael am ddim ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos i atgoffa myfyrwyr sut gall Nawdd Nos helpu.
Chwiliwch am y Ninjas Nawdd Nos a Dafydd y masgot cyfeillgar o amgylch y campws yn ystod yr wythnos.
• Dafydd a'r Ninjas Nawdd Nos yn cael te parti ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Dydd Mercher 1 1:00-1:45
• Dafydd a'r Ninjas Nawdd Nos yn cael te parti ar Safle'r Normal Dydd Mercher 1 2:00-3:00
• Gwerthiant cacennau Nawdd Nos ar Safle Ffriddoedd Dydd Iau 2 Chwefror 12:30
• Noson ffilm Nawdd Nos nos Iau 2 Chwefror 19:30 Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau
• Stondin wybodaeth a recriwtio Nawdd Nos yn adeilad Wheldon Dydd Gwener 3 Chwefror 10:00-1:00
Mae Nawdd Nos yn wasanaeth sydd ar gael o 8:00pm tan 8:00am lle gall myfyrwyr ffonio am unrhyw wybodaeth y gallent fod ei angen neu i gael cymorth ar ffurf clust i wrando.
Nod Nawdd Nos yr wythnos hon yw codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y gwasanaeth trwy wahanol ddigwyddiadau a gynhelir o amgylch y Brifysgol.
Maent hefyd yn gobeithio recriwtio mwy o wirfoddolwyr. Nid oes rhaid cael cymwysterau arbennig, mae holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn gymwys i wirfoddoli. Rhoddir hyfforddiant trwyadl i sicrhau parhau i ddarparu safon uchel o wasanaeth i’r galwyr.
Gofynnai Nawdd Nos i wirfoddolwyr neilltuo pedair noson o'u dewis fesul semester, fel y gellir aros ar agor cymaint â phosib. Derbynnir gwirfoddolwyr dwywaith y flwyddyn, ar ddechrau bob semester, i alluogi aelodau newydd gymryd rhan yn yr hyfforddiant priodol. Oherwydd natur yr hyfforddiant, ni all Nawdd Nos dderbyn ceisiadau i wirfoddoli y tu allan i'r amseroedd hyn, ond os oes gan rywun ddiddordeb, dylent gysylltu â Nawdd Nos (nightline@undeb.bangor.ac.uk) ac mewn amser byddant yn derbyn e-bost i’w atgoffa pan fydd Nawdd Nos yn derbyn mwy o wirfoddolwr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu â diddordeb bod yn wirfoddolwr, ewch draw i un o ddigwyddiadau'r wythnos hon neu i'w gwefan http://www.undeb.bangor.ac.uk/nightline/cy/ neu dewch o hyd i Bangor University Nightline neu Dafydd Nightline, y masgot cyfeillgar ar Facebook. Cofiwch, mae rhif Nawdd Nos ar gefn eich cerdyn myfyriwr!
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012