Wythnos Hinsawdd: Cynllun teithio am ddim ar fysiau
Unwaith eto mae Bysiau Arriva Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Bangor i gynnig teithio AM DDIM i fyfyrwyr a staff sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol yn ystod Wythnos Hinsawdd.
Rhwng 2 a 6 Mawrth 2015, bydd Bysiau Arriva Cymru yn cynnig teithio am ddim i’r holl staff a myfyrwyr sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i gampysau Prifysgol Bangor. Y cyfan fydd rhaid i gefnogwyr Wythnos Hinsawdd Prifysgol Bangor ei wneud bydd camu ar y bws, dangos cerdyn staff/myfyriwr Prifysgol Bangor dilys (gyda chod bar) i'r gyrrwr a theimlo'n fodlon eu bod yn gwneud rhywbeth bach i helpu'r amgylchedd.
Mae’r Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i adael y car gartref am ychydig ddyddiau a manteisio ar y cynnig hwn. Bydd defnyddio cludiant cyhoeddus nid yn unig yn lleihau carbon, ond gall hefyd gael gwared â’r straen o eistedd mewn traffig neu chwilio am le i barcio.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y brifysgol: "Ym Mangor, rydym wrthi'n cymryd camau breision tuag at fod yn brifysgol fwy cynaliadwy. Rydym yn gofyn i ni ein hunain pa effaith ydym yn ei gael ar yr amgylchedd a beth allwn ei wneud i wella pethau.
“Mae'r cynnig hael hwn gan Arriva yn annog ein staff a myfyrwyr i ystyried ffordd fwy amgylcheddol o ddod i'r brifysgol na dod yn y car ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a lles defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol. Heb gymorth Arriva, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."
Wythnos Hinsawdd yw ymgyrch newid hinsawdd fwyaf Prydain a'i nod yw ysbrydoli pobl i gymryd camau newydd i greu dyfodol cynaliadwy. Os ydych yn ceisio meddwl am ffordd i wneud gwahaniaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd, ewch i ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Arriva i weld faint o arian y gallech ei arbed trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na gyrru pob dydd.
Mae amserlenni bysus Arriva i’w gweld yma.
Mae Arolwg Teithio Prifysgol Bangor yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn, ac mae’n hanfodol er mwyn ein helpu’r Brifysgol i ddeall patrymau teithio staff a myfyrwyr yn ôl ac ymlaen i’r gweithle. Mae’r wybodaeth a’r adborth sy’n cael ei ddarparu yn amhrisiadwy o ran pwyso a mesur a ydy’r Brifysgol yn cyrraedd ei nod o annog dulliau mwy cynaliadwy o deithio; mae hefyd yn gyfle i staff a myfyrwyr nodi pa welliannau i deithio yr hoffai nhw eu gweld.
Mae’r arolwg ar gael yma.
Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol a 31 Mawrth 2015 yw’r dyddiad cau ar gyfer llenwi’r holiadur.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015