Wythnos lawn o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd
Mr Urdd o flaen ei well - ymysg wythnos lawn o weithgareddau ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod yr Urdd.
Bydd Mr Urdd o flaen ei well mewn achos llys ffug ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener 8 Mehefin. Bydd yr 'achos' yn cael ei chynnal gan staff a myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol, a bydd Mr Urdd yn chwarae rhan y sawl a gyhuddir.
Mae gweithdai Bit-bocsio a sesiynau Hwyl Gwyddoniaeth hefyd ymhlith yr ystod o weithgareddau a gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc ar stondin y Brifysgol trwy gydol yr wythnos.
Mae'r wythnos yn dechrau efo Diwrnod Hwyl Gwyddoniaeth o ddydd Llun i ddydd Mercher, lle bydd y gweithgareddau ymarferol i bobl ifanc yn cynnwys arddangosfeydd bywyd môr o'r Ysgol Gwyddorau Eigion a gweithdy llysnafedd gan yr Ysgol Gemeg. Ochr yn ochr â hyn bydd staff a myfyrwyr o'r Ysgol Addysg yn cynnal sesiynau paentio, adrodd straeon a chanu ar gyfer plant ifanc.
Ar ddydd Mercher, bydd yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru yn cyfweld ymwelwyr i'r Eisteddfod, gan gynnig cyfle iddynt rannu eu profiadau a'u barn am Gymru. Ar ddydd Iau bydd Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn cynnal cyfres o weithdai a pherfformiadau. Un o'r uchafbwyntiau fydd gweithdy Bit-bocsio efo’r rapiwr, DJ a bit-bocsiwr Ed Holden am 10.00. Dilynir hyn gan weithdy drymio, cwis gerddoriaeth ac adloniant gan fyfyrwyr Bangor.
Bydd gweithdy cyfryngau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ar ddydd Gwener, yn rhoi cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar gyflwyno, ffilmio neu olygu.
Hefyd, am 10.00 bydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn holi pa fath o iaith sy’n cael ei defnyddio i ‘decstio’ yn y Gymraeg? Ffurfiol yntau anffurfiol?
Disgwylir y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ymysg y bobol a fydd yn taro mewn i’r stondin am 1.00 i lawrlwytho ‘ap’ o’r Termiadur at gyfer ei ffôn. Bydd yr ‘ap’, a drefnwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd ei gael ar gyfer eu ffon symudol yn ogystal.
Yna mae mwy o gerddoriaeth am 3pm ar ddydd Gwener, pryd y bydd Gwibdaith Hen Fran yn darparu'r adloniant.
Ochr yn ochr â'r gweithgareddau, bydd staff y Brifysgol hefyd wrth law drwy gydol yr wythnos i ddarparu gwybodaeth ac ateb cwestiynau am astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Hefyd, mae bardd sydd ar Restr Fer Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, y Prifardd a’r darlithydd, Gerwyn Wiliams yn perfformio ei farddoniaeth yn fyw ar stondin Palas Print ar y Maes rhwng 3.00-3.30 brynhawn dydd Mercher.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012