Wythnos y Prifysgolion: Cefnogwyr
“Roeddwn ym Mhrifysgol Bangor o 1975 tan 1978, ac astudiais Lenyddiaeth Saesneg a Drama. Y dyddiau hynny, dim ond wyth o brifysgolion yn y wlad oedd yn arbenigo yn y math hwn o radd gyd-anrhydedd, felly roedd Bangor ar y blaen hyd yn oed y pryd hynny. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o genhedlaeth o fyfyrwyr ar fy nghwrs a oedd yn cynnwys Danny Boyle, a aeth ymlaen i ennill Oscar, a hefyd llawer o bersonoliaethau mawr eraill sydd wedi mynd ymlaen i weithio’n llwyddiannus iawn yn y diwydiant Teledu a Ffilm ar amryw o ffurfiau.
“Bydd Prifysgol Bangor bob amser â lle yn fy nghalon, gan imi ddysgu am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd …. Hir y parhao i ysbrydoli.”
Frances Barber
Actores (1978, Saesneg a Drama)
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2011