Xavier yn paratoi ar gyfer her Ironman Cymru
Mae aelod o staff Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi i gymryd rhan mewn un o'r heriau athletaidd anoddaf yn y byd, y triathlon Ironman.
Bydd Xavier Laurent, Swyddog Cefnogi Ymchwil a Chyflawni i'r Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael yn ysgol y gyfraith yn cymryd rhan yn her Ironman Cymru ddydd Sul, 8 Medi 2013. Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys nofio am 2.4 milltir, reidio beic am 112 milltir a rhedeg marathon 26.2 milltir. Rhaid cyflawni'r cwbl o fewn 17 awr heb egwyl.
Ers symud i ogledd Cymru yn 2002, mae Xavier wedi gwneud nifer o weithgareddau awyr agored. Bydd yn cwblhau ei PhD mewn Cyfryngau Newydd a Seicoleg eleni. Roedd yn mwynhau chwaraeon yn fawr iawn yn ei wlad frodorol, Ffrainc, ond mae'r golygfeydd a'r dirwedd yng ngogledd Cymru wedi ei ysbrydoli i ymgymryd â heriau newydd fel ras yr Wyddfa, marathon Eryri a nifer o wahanol rasys rhedeg bryniau. “Yn 2010 penderfynais fynd â phethau gam ymhellach a chymryd rhan mewn rhai o'r cystadlaethau triathlon lleol,” meddai Xavier. "Mi wnes i wir fwynhau'r heriau ychwanegol o nofio a seiclo a phenderfynais weithio'n galetach ar y ddau faes yma.
Erbyn hyn mae Xavier wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Ironman a gynhelir yn Ninbych y Pysgod yn ne Cymru. "Hoffwn wneud yn dda yn y ras hon a'i chwblhau o fewn 13-14 awr", meddai. "Rwyf eisoes wedi gwneud rhai rasys lleol eleni, fel y Triathlon Slateman Eryri ac Etape Eryri. Rwyf hyd yn oed wedi nofio yn afon Menai, a arweiniodd at bigiad gan slefren fôr!'
Nid Xavier yw'r unig athletwr yn Ysgol y Gyfraith. Bu Benjamin Pritchard, sy'n fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf, yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Triathlon Ewrop yn Nhwrci ym mis Mehefin 2013, a'r darlithydd Sarah Nason oedd yr unigolyn cyntaf erioed o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ultraman Canada, sy’n cael ei ystyried fel y triathlon anoddaf drwy’r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013