Y BBC yn comisiynu dwy raglen ddogfen wedi’u seilio ar ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Caiff ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Bangor i fywyd Iddewig yng Nghymru ei darlledu gan y BBC. Darlledir dwy raglen ddogfen ar y radio, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, gan ddefnyddio gwaith ymchwil tri academydd yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau - Awst 11 am 13.15 ar Radio Cymru (Terfysg Tredegar) a Sul 14 ar Radio Wales am 17.30 (The Tredegar Riots http://www.bbc.co.uk/programmes/b013bzm0).
Mae Dr. Nathan Abrams wedi bod yn ymchwilio er 2006 i fywyd Iddewig yng Nghymru ac mae eisoes wedi trefnu arddangosfa ar fywyd Iddewig sydd wedi bod ar daith o amgylch Cymru. Gwnaed hyn ar ôl iddo lwyddo i ennill grant o £19,000 dan gynllun Beacons. (Mae Dr Abrams eisoes wedi sicrhau £85k i gyd tuag at ei faes ymchwil.)
Tynnodd yr arddangosfa sylw cwmni cynhyrchu rhaglenni Cread o Ynys Môn. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Steve Edwards: ‘Dwi wedi byw yng Nghymru ar hyd fy oes a doeddwn i erioed wedi meddwl am y bennod ryfeddol yma yn ein hanes cyn i mi weld yr arddangosfa honno. Roeddwn i’n meddwl y byddai o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach ac mae’r BBC wedi cytuno.”
Mae Dr. Nathan Abrams, uwch ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm, yn cynghori’r cwmni cynhyrchu fel ymgynghorydd/arbenigwr hanesyddol a chaiff ei gynorthwyo gan Cai Parry-Jones. Mae ef yn fyfyriwr PhD, a gyllidir gan yr AHRC, gan ymchwilio i’r ‘Diaspora Iddewig yng Nghymru’.
Meddai Dr. Nathan Abrams : ‘Dwi wrth fy modd yn ymwneud â’r rhaglenni yma. Dwi wedi ymddiddori yn hanes Iddewon yng Nghymru ers i mi ddod i Fangor yn 2006. Ers hynny cafwyd cyfres o ddigwyddiadau, megis seminarau, darlithoedd ac arddangosfeydd a gobeithir y bydd yr arlwy diweddaraf yma’n cyrraedd cynulleidfa eang iawn.”
Caiff y rhaglenni dogfen, o’r enw Tredegar Riots a Terfysg Tredegar, eu darlledu yn Gymraeg a Saesneg a byddant yn edrych ar hanes bywyd Iddewig yng Nghymru o’r oesoedd canol i’r cyfnod presennol.
Rhoddir cyngor ar gynhyrchu a sgriptio gan Dr. Llion Iwan, darlithydd mewn newyddiaduraeth, tra mae’r gerddoriaeth ar gyfer y ddwy raglen wedi’i chyfansoddi gan Dr Owain Llwyd o’r Ysgol Cerddoriaeth. Perfformiwyd ei gyfansoddiad gan Gerddorfa Symffoni Skopje ym Macedonia.
Bydd y rhaglen ar BBC Radio Wales a’r raglen ddogfen debyg, ond hirach, ar BBC Radio Cymru. Mae’r ddwy orsaf radio hyn yn cyrraedd cynulleidfa o 710,000 rhyngddynt bob wythnos.
Gwradno eto : http://www.bbc.co.uk/iplayer/console/b0131yqp
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011