Y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Fangor yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Bangor wedi ennill y Bencampwriaeth Ryng-golegol - twrnamaint chwaraeon blynyddol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth - gyda sgôr terfynol o 33-10 i Fangor.
Dywedodd Tatenda Shonhiwa, Is-lywydd Chwaraeon Undeb Bangor: "Mae eleni wedi bod yn flwyddyn enfawr i fyfyrwyr Bangor. Dylem i gyd fod yn falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym fel Undeb Athletaidd yn ogystal â’r hyn a wnaed gan y clybiau unigol."
Ychwanegodd: "Heddiw, cawsom fuddugoliaeth fawr unwaith eto yn erbyn ein ffrindiau o Aberystwyth - gyda’r sgôr yn 33-10. Dyma un o'n perfformiadau gorau eto.
"Diolch i staff y cyfleusterau ym mhob un o'r lleoliadau am sicrhau amodau chwarae ardderchog ac i Far Uno am noddi'r digwyddiad.
"Hoffwn longyfarch pob un o'n timau a’u sgwadiau - p’un ai eich bod wedi chwarae heddiw neu wedi bod yn cefnogi eich cyd-chwaraewyr - rydych wedi dod â balchder i’ch clybiau, Undeb Bangor, Prifysgol Bangor ac i chi’ch hunain.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'm cydweithwyr yn Undeb Bangor a Chwaraeon Prifysgol Bangor am ddiwrnod mor rhagorol yn ogystal ag i Frigâd Ambiwlans Sant Ioan, Storm FM, Seren a'r holl wirfoddolwyr sydd wedi gwneud y digwyddiad yma’n llwyddiant."
Llwyddiannau di-ri Bangor oedd newyddion y dydd, gyda lli o fuddugoliaethau o ddechrau'r prynhawn. Erbyn canol dydd, roedd Bangor ar y blaen o 9-2.
Ymysg y llwyddiannau mwyaf nodedig oedd buddugoliaethau’r tîm pêl-droed Americanaidd, Bangor Muddogs o 41-13 ar faes Treborth, y clwb badminton o 8-0 yng Nghanolfan Brailsford, a pherfformiad y nofwyr yn ennill y cystadlaethau nofio o 28-3.
Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): "Gyda’r haul yn tywynnu, cafwyd diwrnod gwych i chwaraeon ym Mangor. Rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr a'u buddugoliaeth nodedig ar ben-blwydd y Bencampwriaeth yn ddeg oed. Diolch yn fawr i bawb am wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus."
Diolch i Seren am yr wybodaeth. Mae dadansoddiad llawn o’r canlyniadau i’w gael yma:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018