Y Brifysgol yn agor gât y fferm yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Abergwyngregyn
Oni fyddai’n syniad da pe bai modd inni dyfu ein tomatos ein hunain yn yr awyr agored? Ac a fyddai modd defnyddio peth o’r compost a gynhyrchir gan gynghorau er mwyn tyfu tatws? Dewch draw i weld sut y defnyddir cennin Pedr i drin Clefyd Alzheimer a dysgu pam nad yw gwenyn yn pigo bob tro. Dysgwch sut y mae gwyddonwyr a phobwyr yn gweithio ar y cyd i ddatblygu ‘bwyd swyddogaethol’ gan ddefnyddio rhywogaeth o haidd sy’n faethlon a blasus iawn.
Cewch ateb i hwn ac i gwestiynau eraill yn ystod ymweliad â Chanolfan Ymchwil Amaethyddol y Brifysgol yn Henfaes, Abergwyngregyn, rhwng 2.00pm a 4.30pm ddydd Iau 12 Mehefin. Dyma un o weithgareddau’r Brifysgol a gynhelir ar gyfer Wythnos y Prifysgolion, ar 9-15 Mehefin, pryd y bydd prifysgolion ar draws y DU yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r modd y mae ymchwil mewn prifysgolion yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd.
Bydd yr Ysgol Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a’i phartneriaid yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes yn Abergwyngregyn yn agor ‘gât y fferm’ i ymwelwyr ar gyfer y prynhawn. Mae’r Ganolfan Ymchwil yn meddu ar dir, yn amrywio o lefel y môr hyd at y Carneddau, fel ei fod yn lle delfrydol i wneud ymchwil sy’n berthnasol i amaethyddiaeth a ffermio yng Nghymru ac i amgylchedd Cymru.
Meddai’r Athro M.A. McDonald, Pennaeth yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, “Rwy’n credu y byddai pobl yn synnu ynglŷn â’r amrywiaeth eang o ymchwil a wneir yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes – oherwydd ei hehangder a hefyd am ei bod wedi cael effaith wirioneddol ar amaethyddiaeth yng Nghymru (a yw hyn yn wir?) yn ystod y degawdau.
Rydym bob amser yn falch o weithio gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru, ac yn croesawu’r cyfle i wahodd aelodau o’r cyhoedd i ddod draw i ymweld â’r Ganolfan Ymchwil.”
Yn ystod y blynyddoedd a fu, mae’r Ganolfan wedi cyfrannu at ymchwil bwysig, gan ddangos yr effeithiau cadarnhaol a all ddeillio o amrywio ffarmio wrth gyfuno amaethyddiaeth â choedwigaeth. Gall coedamaeth ddarparu lloches i anifeiliaid, lleihau defnydd ar wrtaith heb i hynny amharu ar ansawdd porthiant, cynyddu ymdreiddiad dŵr gan leihau’r posibilrwydd o lifogydd, ac ynysu carbon mewn haenau dwfn o bridd.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Chanolfan Ymchwil Henfaes ar 01248 382281, e-bost: alison.evans@bangor.ac.uk.
Bydd y Prynhawn Agored yn cynnwys teithiau byr, hygyrch, arddangosfeydd dan do a lluniaeth ysgafn.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2014