Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben.
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Mae'r Brifysgol eisoes yn gweithio i sicrhau fod cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i’w gweithgareddau addysgu, dysgu, ymchwil ac arloesi. Mae’r Ganolfan BioGyfansoddion ar flaen y gâd o ran ymchwil, datblygu a chymhwyso dewisiadau wedi eu gwneud o blanhigion i gymryd lle’r deunyddiau synthetig sy’n cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu a diwydiant. Mae Labordy Cynaliadwyedd y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda staff a myfyrwyr ar bob agwedd ar gynaliadwyedd, gan gymryd diddordeb arbennig mewn rheoli gwastraff. Maent newydd gwblhau wythnos gyfan o weithgareddau Ymwybyddiaeth Gwastraff.
Gan gyfeirio at arwyddo'r ddogfen hon, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes:
"Fel Is-ganghellor Prifysgol sydd wedi ymrwymo i Gynaliadwyedd, rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymeradwyo'r ymgyrch ddiweddaraf hon i ddileu llygredd plastig ar ddechrau’r daith ac i hyrwyddo ymagwedd economi gylchol at gynhyrchu a masnachu."
Dywedodd cydlynydd gwastraff y Campws, Gwen Holland:
"Mae Prifysgol Bangor yn llwyr gefnogi'r weledigaeth o economi gylchol ar gyfer plastigion, ac yn falch iawn o lofnodi’r Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastig. Er bod llygredd plastig wedi ennyn sylw'r cyhoedd yn ddiweddar, mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion hirdymor na fydd yn cael unrhyw effaith negyddol anfwriadol ar yr amgylchedd. Mae dileu plastig problemus a diangen yn allweddol, tra'n sicrhau bod y plastig a ddefnyddiwn yn gallu cael ei ailddefnyddio'n ddiogel, ei ailgylchu neu ei gompostio. Os caiff plastig ei ailgylchu, dylai fod o ansawdd y gellir ei ailgylchu sawl gwaith, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i gael ei gylchredeg."
Gellir gweld copi o'r datganiad swyddogol yma:
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018