Y Brifysgol yn cofio’r Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Roedd Carwyn Jones yn traddodi “A Breathtaking Legacy of an Inventor, Entrepreneur & Philanthropist” , sef ‘Darlith Goffa Dr Tom Parry Jones’ a oedd yn anrhydeddu’r dyn o Fôn a ddyfeisiodd yr anadlennydd electronig, ac achub bywydau dirifedi yn sgil hynny.
Bu farw Tom Parry Jones yn 78 fis Ionawr 2013. Ar ôl cael ei fagu ar fferm ym Môn, graddio mewn Cemeg o Fangor, a dod yn academaidd a gŵr busnes o fri. Tua diwedd y 1960s, ac yntau ar y pryd yn Ddarlithydd yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), datblygodd yr ‘Alcolyser’ ac, ymhen ychydig flynyddoedd, yr ‘Alcolmeter’ a ddelid â llaw, ac a gynhyrchwyd gan y cwmni a sefydlwyd ganddo yng Nghaerdydd, sef Lion Laboratories Ltd. Gwerthodd yr anadlennydd electronig ar raddfa eang iawn ar draws y byd, gan ennill cyfres o wobrau. Gweddnewidiodd y modd yr oedd heddluoedd yn gallu gweithredu deddfwriaeth gysylltiedig ag yfed a gyrru.
Meddai’r Prif Weinidog, “Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn Narlith Goffa gyntaf Tom Parry Jones ac, wrth wneud hynny, o hyrwyddo model rôl mor neilltuol ar gyfer ymchwilwyr, entrepreneuriaid a dyngarwyr dros Gymru gyfan a’r tu hwnt.”
Meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol, “Cafodd Dr Tom Parry Jones lawer o lwyddiannau mawr yn ystod ei yrfa, gan ennill nifer o wobrau am ei waith. Fodd bynnag, un o’i brif amcanion oedd ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc – cenedlaethau newydd o fyfyrwyr – i gyfranogi mewn gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth, a bu mor hael a sefydlu Cronfa Waddol Tom Parry Jones ym Mhrifysgol Bangor at y diben hen nifer o flynyddoedd yn ôl. Rhoddodd hyn sylfaen cadarn i Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor. Rydym yn werthfawrogol iawn o’r cyfle hwn i fynegi ein diolch ac i dalu teyrnged i gof Tom.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014