Y Brifysgol yn dathlu Gwobrau Effaith Werdd 2014
Yn ddiweddar, dathlodd Prifysgol Bangor ei blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Project Effaith Werdd, gan gynnal Seremoni Wobrwyo. Bu’r digwyddiad yn gydnabyddiaeth o waith caled y timau i wneud eu gweithleoedd yn fwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn, ac o gyfraniad cynyddol y staff at ‘wyrddio’ eu gweithleoedd wrth weithredu arferion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.
Mae Effaith Werdd yn gynllun achredu amgylcheddol a gynhelir yn lleol gan Dîm Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, a archwilir gan fyfyrwyr ac a reolir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM). Gall timau gasglu pwyntiau yn ôl faint o weithgareddau gwyrddio a gwblhânt yn y gweithle, a gallant ennill safon Efydd, Arian neu Aur. Am y flwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y project, enillodd naw tîm y Wobr Efydd ac enillodd un tîm y Wobr Aur..
Dyma Enillwyr y Wobr Efydd eleni: Dyfrdwy, Library Worms, Cymraeg i Oedolion, Thoday, y Drydedd Fordd, UniPlanet, PVC Posse a Gweithwyr Coleri Gwyrdd. Tîm ‘Fifty Shades of Green’ a enillodd y Wobr Aur.
Meddai Mair Rowlands, Swyddog Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor a fu’n cydlynu’r project, “Roedd y seremoni’n ffordd wych o ddathlu’r gwaith gwych a wneir gan staff i leihau effaith eu gweithleoedd ar yr amgylchedd. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y creadigrwydd, yr angerdd a’r ymroddiad a gyfrannwyd gan y timau at yr Effaith Werdd.
Meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor, “Mae’r enw da cynyddol y mae Prifysgol Bangor wedi’i ennill ers ychydig flynyddoedd i’w briodoli i waith gwych ei staff a’i myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o’n cynnydd ac wrthi’n ennill enw da ar lefel genedlaethol am gynaliadwyedd y mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchiad cwbl deg ohono.”
Gwirfoddolodd deg o fyfyrwyr Prifysgol Bangor fel archwilwyr ar gyfer yr Effaith Werdd. Cawsant hyfforddiant perthnasol gan UCM mewn technegau archwilio amgylcheddol, buont yn dysgu sut y cynhelir y Brifysgol, ac yn datblygu medrau defnyddiol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Bu’r seremoni hon hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant parhaus gwaith Undeb y Myfyrwyr ym maes cynaliadwyedd a’i gamp wrth ennill Gwobr Aur uchel ei pharch yng Ngwobrau Effaith Werdd UCM, gan ennill Gwobr ‘Communications Challenge’ yr Ecologist o ganlyniad i ffilm ‘eco-stunt’ un funud, gan ddefnyddio cyfrwng ffilm i gyflwyno neges amgylcheddol. Cafodd Undeb y Myfyrwyr hefyd ei enwi’n Undeb y Flwyddyn (anfasnachol).
Edrychwch ar yr oriel ddelweddau.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2014