Y Cenhedloedd Unedig a chadw'r heddwch yn rhyngwladol - grym sydd wedi pallu?
Ddydd Mercher 25 Chwefror am 18.00 bydd Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Adeilad y Celfyddydau). Caiff y ddarlith “The United Nations in a Changing World: Transformation and Reform in the 21st Century ”, ei chyflwyno ar y cyd â Changen Menai o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig ac mae croeso i bawb ddod i'r digwyddiad hwn, sydd am ddim.
Y siaradwr yw'r Cyrnol Brendan O’Shea, Pennaeth yr Ysgol Rheolaeth a Staff yng Ngholeg Milwrol Lluoedd Amddiffyn Iwerddon. Mae wedi bod yn rhan o luoedd Ewropeaidd a anfonwyd i gadw'r heddwch mewn nifer o argyfyngau a rhyfeloedd, yn cynnwys Lebanon, y cyn Iwgoslafia, Liberia, Georgia, Kosovo a Bosnia.
Bydd Cyrnol O'Shea yn trafod swyddogaeth y Cenhedloedd Unedig mewn byd lle gwelir newidiadau mawr yn digwydd ar hyn o bryd. Bydd yn edrych ar ddyheadau a galluoedd y Cenhedloedd Unedig, ei lwyddiannau a'i fethiannau a'i sialensiau newydd o ran diogelwch.
Mae gan Cyrnol O'Shea gefndir cynhwysfawr mewn rheoli argyfwng a gweithrediadau cefnogi heddwch rhyngwladol ar ôl gweithio’n helaeth gyda’r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, OSCE a NATO yn y Dwyrain Canol, y Balcanau a Gorllewin Affrica. Roedd yn aelod craidd o dîm y Cenhedloedd Unedig a wnaeth ddilysu ciliad yr Israeliaid o Lebanon ym Mai 2000 ac a diffiniodd y ffin wedi hynny rhwng y ddwy wlad a elwir yn awr yn rhyngwladol fel y Llinell Las.
Yn ogystal â'i rôl filwrol mae'r Cyrnol (Dr) Brendan O’Shea yn Gyd-Gyfarwyddwr ar y Rhaglen MA mewn Arweinyddiaeth, Rheolaeth ac Astudiaethau Amddiffyn ym Mhrifysgol Má Nuad (Maynooth), Swydd Cildara. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Sifil-Mirwol y Lluoedd Amddiffyn Addysg a Hyfforddiant; Mae'n Gyfarwyddwr Cwrs Cysylltiadau Sifil-Milwrol Rhyngwladol Iwerddon; ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd Bwrdd Athrawiaethol Cysylltiadau Sifil-Milwrol y Lluoedd Amddiffyn.
Mae ei feysydd diddordeb arbenigol yn cynnwys Cyfraith Trosedd Ryngwladol, Hanes Modern Ewrop, Rheoli Argyfwng, Gweithrediadau Heddwch-Cefnogi, Mudo traws-wladol; a thrawsnewidiad Kosovo o Chwyldro i Annibyniaeth.
Yn gyfrannwr cyson at Studies in Conflict and Terrorism (RAND US), mae ei weithiau cyhoeddedig rhyngwladol yn cynnwys Crisis at Bihac (Sutton, UK, 1998) a ailgyhoeddwyd fel Bosnia’s Forgotten Battlefield - Bihac (The History Press, UK, 2012); The Modern Yugoslav Conflict (Frank Cass, UK, 2005) a ailgyhoeddwyd fel The Modern Yugoslav Conflict (Routledge, UK, 2012); In the Service of Peace - Memories of Lebanon (Mercier Press, Irl, 2001) The Irish Volunteer Soldier (Osprey, UK, 2003), The Burning of Cork (Mercier Press, Irl, 2000): Baptised in Blood (Mercier Press, Irl, 2006); ac A Great Sacrifice (Echo Publications, Irl, 2010). Yn ogystal, mae wedi bod yn olygydd y Defence Forces Review bedair gwaith (2003, 2005, 2006, a 2008).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015